Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 12 Chwefror 2019.
Wel, nid ydym o blaid Brexit â mwgwd yn sicr, a heb fod ers y dyddiau cynharaf yn dilyn y refferendwm. Mae'r Aelod yn gyfarwydd iawn, mi wn, â'r prosbectws a gyflwynodd Llywodraeth Cymru yn sgil hwnnw: Brexit a gaiff ei lywio gan anghenion yr economi a swyddi yma yng Nghymru; Brexit sydd â syniad clir o ran aelodaeth o undeb tollau; rheoleiddio deinamig sy'n gydnaws â'r farchnad sengl; a chyfundrefn symud pobl sy'n deg. Dyna'r math o Brexit, os ydym ni i gael Brexit, sy'n gwneud y gorau yn ei allu i liniaru'r effaith ar economi Cymru wrth inni adael ein marchnad agosaf a mwyaf pwysig. Ac rwy'n manteisio ar bob cyfle, fel y gwnaiff fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet, i ddadlau o blaid y math hwnnw o Brexit, ar bob cyfle a ddaw.