Part of the debate – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 12 Chwefror 2019.
Diolch yn fawr iawn am godi'r cwestiynau hynny gyda mi heddiw. Ar y mater band eang, pe byddech yn rhannu manylion penodol amgylchiad eich etholwr gyda mi, byddwn yn hapus i archwilio hynny gyda'r Gweinidog a gadael i chi gael canlyniad hynny.
O ran eich cwestiynau ynghylch 'Polisi Cynllunio Cymru' a sut y mae'n torri ar draws y ceisiadau cynllunio presennol, ac ati, mae'n debyg y dylid cyfeirio at y Gweinidog sy'n gyfrifol am gynllunio.