6. Dadl: Yr Adroddiad Blynyddol ar Gamddefnyddio Sylweddau

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 12 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:00, 12 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch hefyd o adrodd ein bod ni'n parhau i weld canlyniadau cadarnhaol i'r rhai sy'n cael triniaeth: dywedodd 86.5 y cant o bobl eu bod wedi lleihau eu triniaeth camddefnyddio sylweddau yn 2017-18, ychydig yn uwch na'r flwyddyn cyn hynny. Er bod y gwelliannau hyn i'w croesawu, mae'n amlwg bod mwy o waith i'w wneud gydol yr agenda. Er enghraifft, mae'r data yn dangos cynnydd mewn marwolaethau sy'n gysylltiedig yn benodol ag alcohol, o 388 yn 2016 i 419 yn 2017. Mae hynny'n pwysleisio pa mor bwysig yw hi fod mynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, gan fod alcohol a chyffuriau fel ei gilydd yn parhau i fod yn achosion cyffredin o farwolaeth ac afiechyd.

Mae Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris Alcohol) (Cymru) 2018 yn rhan hanfodol o ymateb i'r hyn sy'n broblem bwysig o ran iechyd y cyhoedd. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn canolbwyntio ar leihau'r defnydd o alcohol ymhlith y rhai sy'n yfed yn beryglus a niweidiol. Bydd hefyd yn helpu i leihau effaith negyddol camddefnyddio alcohol ar ein gwasanaethau cyhoeddus sydd dan bwysau. Bydd isafswm pris fesul uned yn rhan o hynny ac yn ategu ein gwaith ehangach ar gamddefnyddio sylweddau. Rydym eisoes yn gweithio i fynd i'r afael â goryfed alcohol drwy addysg well, ataliad a gwasanaethau triniaeth i gefnogi'r rhai sy'n yfed yn fwyaf niweidiol. Byddwn yn parhau i gefnogi teuluoedd y rhai sy'n camddefnyddio alcohol hefyd.

Gan droi at farwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau, mae'r gostyngiad bach cyffredinol yn 2017 i'w groesawu, ond mae 185 o farwolaethau yn sgil camddefnyddio cyffuriau yn parhau i fod yn ormod o lawer o bobl yn marw'n ddiangen yn ein cymunedau. Rwy'n arbennig o bryderus am yr amrywiadau rhanbarthol sy'n bodoli ac rwy'n glir ei bod yn rhaid inni weithio gyda'n partneriaid i ganolbwyntio'r ymdrechion yn sylweddol ar hyn. Mae fy swyddogion yn parhau i weithio gyda phartneriaid mewn nifer o feysydd i geisio lleihau eto nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau. Mae ein prosiect WEDINOS arloesol ni—prosiect cyffuriau newydd ac adnabod sylweddau newydd Cymru—yn parhau i chwarae rhan allweddol yn lleihau'r marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau, drwy ddadansoddi ystod o gyffuriau. Mae cynnal profion ar sylweddau yn ein galluogi ni i ddadansoddi cyfansoddyn cemegol y sylwedd, ond yna, yn hollbwysig, i hysbysu'r unigolion sy'n eu cymryd am y ffactorau risg ehangach sy'n gysylltiedig â nhw. Mae rhannu naloxone, cyffur sydd dros dro yn gwrthdroi effeithiau gorddos opiadau, wedi bod yn elfen allweddol o'n dull ni i leihau niwed ers nifer o flynyddoedd, a bydd hynny'n parhau. Dosbarthwyd cyfanswm o dros 19,000 o becynnau naloxone ledled Cymru ers 2009, a nodwyd bod 2,186 wedi eu defnyddio. Mae hyn ar gael gan bob gwasanaeth triniaeth cyffuriau cymunedol, ynghyd â'r holl garchardai yng Nghymru. O ystyried ei lwyddiant, byddwn yn gweithio'n agos gydag ardaloedd o Gymru i ehangu'r ddarpariaeth o naloxone ymhellach, yn enwedig ymhlith y rhai nad ydyn nhw'n cael triniaeth. Er enghraifft, mae ein swyddogion wedi gweithio'n agos gyda dalfeydd yr heddlu, adrannau damweiniau ac achosion brys a fferyllfeydd cymunedol i sicrhau bod naloxone ar gael i unigolion sy'n anodd mynd atyn nhw am nad ydyn nhw'n cysylltu â'r gwasanaethau fel arfer. Gellir gweld cymhlethdod yr agenda hon pan ystyriwn y cynnydd mewn sylweddau eraill fel cyffuriau i wella perfformiad a delwedd. Mae hyn yn adlewyrchu'r pwysau mawr sy'n bodoli yn ein cymdeithas ni heddiw o ran delwedd y corff, a lle camddefnyddir sylweddau er niwed i iechyd a lles yr unigolyn.

Mae cynnig gwybodaeth ac addysg yn elfennau allweddol o'n strategaeth, a byddwn yn parhau i gefnogi DAN 24/7, sef llinell gymorth camddefnyddio sylweddau rhad ac am ddim a dwyieithog sy'n cynnig un pwynt cyswllt ar gyfer unrhyw un yng Nghymru sy'n ceisio rhagor o wybodaeth neu gymorth o ran problem â chyffuriau neu alcohol. Yn ystod 2017-18, cafodd DAN 24/7 dros 5,000 o alwadau, sy'n golygu cynnydd o 26 y cant dros y flwyddyn flaenorol. Mae defnydd o'r wefan hefyd wedi cynyddu 92 y cant yn ystod yr un cyfnod, gyda gwefan ryngweithiol DAN 24/7 yn cael dros 145,000 o ymweliadau. Cymerodd DAN 24/7 ran mewn llawer o ymgyrchoedd gwybodaeth dros y tair blynedd diwethaf, yn unol â'n dull ni o leihau niwed yn barhaol.

O ran adferiad o gamddefnyddio sylweddau, ac ailintegreiddio i'r gymdeithas, mae gallu sicrhau cyflogaeth yn aruthrol o arwyddocaol, ond rydym yn gwybod y bydd pobl yn aml yn wynebu llawer o rwystrau i gael gwaith, gan gynnwys diffyg addysg a sgiliau, problemau iechyd meddwl a diffyg hunanhyder. Mae ein gwasanaeth mentora cymheiriaid di-waith, a ariennir gan gronfa gymdeithasol Ewropeaidd, yn ddull unigryw yng Nghymru o fynd i'r afael â'r rhwystrau allweddol hyn i gyflogaeth drwy gyfrwng un gwasanaeth. Mae hwn yn rhoi cymorth yn rhad ac am ddim yn yr hirdymor gan fentoriaid hyfforddedig sydd â phrofiad personol o broblemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau. Ac ers ei lansio ym mis Awst 2016, mae dros 4,200 o bobl sy'n adfer o gamddefnyddio sylweddau yn unig neu'n adfer o gyfuniad o gamddefnyddio sylweddau a salwch iechyd meddwl wedi cofrestru yn y gwasanaeth.

Rydym ni'n buddsoddi cyfanswm o £17.3 miliwn, gan gynnwys £11.6 miliwn o gymorth o'r gronfa gymdeithasol Ewropeaidd, i gefnogi darpariaeth y gwasanaeth mentora cymheiriaid di-waith. Bydd hyn yn caniatáu inni gefnogi dros 14,000 o bobl ar eu siwrnai tuag at adfer erbyn haf 2020. Rwy'n awyddus i adeiladu ar y gwaith hwn, ac ar hyn o bryd mae fy swyddogion yn cysylltu â Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru i ymestyn y gwasanaeth tan 2022 a rhoi mwy o gefnogaeth i fwy o bobl. Mae camddefnyddio sylweddau yn achos mawr o salwch, colli swydd, neu i bobl deimlo na allan nhw gael gwaith, ac mae'r gwasanaeth hwn yn cyfrannu at ein hymrwymiad i gefnogi pobl, i chwalu'r rhwystrau y mae afiechyd yn eu rhoi ar gyflogaeth.

Gan droi at y gwelliannau yn gryno iawn, ni fyddwn yn cefnogi gwelliant 1 gan Darren Millar, gan fod yr ystadegau diweddaraf yn dangos bod nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau yn gostwng, ac nid yn cynyddu. Hefyd, ar fater adsefydlu preswyl, yn ei hanfod mater i'r byrddau cynllunio ardal, yn unol â chanllawiau clinigol a mewnbwn gan ddefnyddwyr gwasanaeth, yw penderfynu ar yr ymyriad mwyaf priodol wrth gomisiynu gwasanaethau, boed yn ddarpariaeth haen 4 neu, er enghraifft, yn adsefydlu cymunedol.

Ni fyddwn yn cefnogi gwelliannau 2 na 3 gan Rhun ap Iorwerth. Dylid cydnabod bod adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn edrych ar brofiadau pobl ar adeg yr adolygiad. Eto i gyd, mae swyddogion yn monitro amseroedd aros yn drylwyr drwy gyfrwng ein hystadegau cyhoeddedig, a chaiff dros 90 y cant o bobl, fel y soniais, eu gweld o fewn ein targed o 20 diwrnod gwaith. Er hynny, byddwn yn parhau i ganolbwyntio a gweithio gyda phartneriaid ar y materion a godwyd. Ac, fel y gwelwyd yn y gwerthusiad diweddar, rydym ni'n gwneud cynnydd ar faterion sy'n gymhleth ac yn heriol.

Byddwn yn cefnogi gwelliant 4 gan Rhun ap Iorwerth. Ystyrir camddefnyddio sylweddau yn fater o iechyd, ac mae'r dull o leihau niwed yn rhywbeth sydd wedi bod yn ganolbwynt i'n gwaith ar gamddefnyddio sylweddau dros y 10 mlynedd diwethaf. Yn hytrach na gwneud unigolion yn droseddwyr, dylid canolbwyntio i raddau helaeth iawn ar adsefydlu a chanolbwyntio ar leihau niwed. Rwy'n edrych ymlaen at glywed cyfraniadau gan yr Aelodau yn ystod y ddadl.