Part of the debate – Senedd Cymru am 4:19 pm ar 12 Chwefror 2019.
Naddo, mae arnaf ofn—dim ond ar yr adroddiad hwn yr wyf i wedi edrych. Felly, sylweddolaf fod gennych chi ffigurau gwell, ond mae'r ffigurau yn yr adroddiad hwn yn dangos bod yna ostyngiad. Os ydych chi'n credu bod cynnydd enfawr yn nifer y marwolaethau oherwydd cyffuriau wedi bod ers hynny, yna yn amlwg mae hwnnw'n fater y mae angen inni ei gymryd o ddifrif.
Yn fy marn i—. Yn ddi-os, mae'r dirwedd wedi newid yn ystod y 10 mlynedd diwethaf ers inni lansio'r strategaeth gyffuriau. Mae fy etholaeth i yn enwedig wedi dioddef yn sylweddol o ganlyniad i'r cynnydd yn nifer y Llinellau Cyffuriau—pobl sydd yn targedu rhai sy'n agored i niwed, sy'n defnyddio'r bobl hynny er mwyn gwneud symiau mawr iawn o arian. Felly, mae cyni wedi creu gwagle sy'n cael ei lenwi gan gangiau troseddol. Maen nhw'n dod yma o ddinasoedd mawr fel Llundain, Birmingham a Lerpwl ac yn manteisio ar blant ac oedolion ifanc, hynny'n aml gan ddefnyddio gorfodaeth dreisgar, er mwyn eu perswadio i ddelio mewn cyffuriau. Ac mae hyn yn beth sy'n codi ofn dwys ar bobl, nid yn unig y bobl sy'n ymwneud â hynny ond hefyd ar gymunedau cyfan, a all fod yn gwbl ddiniwed un funud a'r funud nesaf yn ddioddefwyr.
Felly, mae trais sy'n gysylltiedig â chyffuriau yng Nghaerdydd wedi llamu i fyny. Ddwy flynedd yn ôl, trywanwyd dyn ifanc, Lynford Brewster, i farwolaeth ganol dydd gan dri dyn ifanc arall ar ystad yn Llanedeyrn, a hynny o flaen nifer o dystion a geisiodd achub ei fywyd. Flwyddyn yn ôl i'r wythnos hon, saethwyd dyn yn ei wyneb mewn fflat yn y Rhath pan ddaeth tri arall i'w weld. Yn ffodus, goroesodd y dyn ond yn amlwg roedd y profiad yn un arswydus i'r holl bobl eraill oedd yn byw yn y bloc hwn o fflatiau. Rai misoedd yn ddiweddarach, dau floc i ffwrdd yn unig, cafodd deliwr cyffuriau y tro hwn, ei drywanu drwy ei galon wedi i fargen cyffuriau gael ei chwblhau. Mewn man arall yn y Rhath, daeth preswylydd arall i gysylltiad â gang oedd yn delio mewn cocên gan ei fod wedi mynd i ddyled oherwydd ei ddefnydd o mariwana, ac roedd yn rhoi caniatâd i'r gang ddefnyddio ei dŷ er mwyn gwneud gwerth £70,000 o fargeinion dros gyfnod byr o amser.
Fis Mehefin diwethaf, bu'n rhaid inni ddefnyddio adnoddau'r heddlu i arestio pobl mewn cyrchoedd dros bum diwrnod. Defnyddiwyd cannoedd o heddlu mewn cyrch a gafodd ei alw'n Operations Red Line, pan ddefnyddiwyd llifiau cadwyn i dorri drysau'r delwyr a chipio cannoedd o eitemau, yn cynnwys cyllyll, cleddyfau a machete—yr holl adnoddau yna'n cael ei wario gan ein heddluoedd er mwyn ceisio ymdrin â phroblem sydd, a dweud y gwir, wedi dechrau mynd allan o reolaeth. Felly, rwyf am ddefnyddio'r hyn sy'n weddill o fy amser i annog pobl i feddwl am ymatal ac, yn benodol, i sicrhau bod ysgolion yn ymdrin yn ddigonol â'r mater hwn a hefyd bod gwasanaethau ieuenctid ar gael, yn enwedig yn y cymunedau mwyaf agored i niwed, fel bod oedolion cymeradwy y gall pobl ifanc droi atynt os ydynt yn dechrau cael eu tynnu i mewn i gael eu perswadio i werthu cyffuriau. Oherwydd, fel arall, mae'r canlyniadau i bobl ifanc yn ddifrifol iawn ac yn gyffredinol, yn difetha eu bywydau. Felly, credaf fod yn rhaid inni bwysleisio'r agwedd ymatal o hyn er mwyn ceisio sicrhau nad oes rhagor o bobl ifanc yn difetha eu bywydau, naill ai drwy gymryd cyffuriau ond hefyd drwy fod yn werthwyr cyffuriau.