Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 12 Chwefror 2019.
Felly, rydym ni'n mynd i'r cyfnod pleidleisio, a'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma yw pleidlais ar y Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig, Ffioedd a Ffioedd am Geisiadau Tybiedig) (Cymru) (Diwygio) 2019. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agorwch y bleidlais. Caewch—[Torri ar draws.] Ie, iawn. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 35, dau yn ymatal, naw yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig.