Part of QNR – Senedd Cymru ar 12 Chwefror 2019.
Bydd ein cynllun parhaol rhyddhad ardrethi busnesau bach yn cynnig 100 y cant o ryddhad i ddarparwyr gofal plant o 1 Ebrill ymlaen. Bydd £23.6 miliwn yn ychwanegol o ryddhad yn cael ei gynnig i fanwerthwyr a’r stryd fawr yn 2019-20 ac rydyn ni wedi ymestyn rhyddhad ar gyfer prosiectau ynni dŵr cymunedol i 2019-20.