Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 13 Chwefror 2019.
Weinidog, mae gwelliannau i ffordd yr A465 Blaenau'r Cymoedd yn hanfodol i adfywiad cymdeithasol ac economaidd cymunedau megis Merthyr Tudful. Fe fyddwch yn gwybod, Weinidog, fod pryderon wedi'u mynegi ynghylch oedi a chost gynyddol deuoli'r A465 rhwng Gilwern a Bryn-mawr. O gofio bod cam nesaf y gwelliannau, rhwng Dowlais Top a Hirwaun, i fod i gychwyn eleni, a all y Gweinidog gadarnhau y bydd y prosiect hwn yn dechrau ar amser, a pha wersi y mae wedi'u dysgu i sicrhau na cheir oedi a chostau ychwanegol, fel y cafwyd o'r blaen, yn yr achos hwn? Diolch.