Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 13 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 1:45, 13 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Roeddwn am ofyn y cwestiwn cyntaf ynglŷn ag a ydych wedi gwneud dadansoddiad economaidd o'r toriadau posibl i addysg uwch. Rwy'n sylweddoli bod hyn yn ymwneud yn bennaf â'r portffolio addysg, ond os edrychwn ar hyn mewn ffordd gyfannol, mae colli unrhyw swyddi—boed y swyddi hynny ym Mangor, yng Nghaerfyrddin, neu yng Nghaerdydd, gyda chyhoeddiad diweddar ynghylch diffyg o £21 miliwn yn eu cyllideb—yn mynd i effeithio ar economi Cymru. Mae'n eithaf eironig, yn yr wythnos a elwir yn 'HeartUnions', fod yn rhaid i undebau llafur yng Nghymru baratoi ar gyfer y posibilrwydd o ddiswyddiadau gorfodol yma yng Nghymru. Pa ddadansoddiad economaidd rydych yn ei wneud o'r posibilrwydd o golli'r swyddi hyn i'n cymunedau?