Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 13 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 1:39, 13 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Fel y gŵyr yr Aelod, rydym yn bwriadu darparu band eang cyflym iawn i 26,000 o adeiladau erbyn mis Mawrth 2021, ar gost o bron i £22.5 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru a'r UE drwy'r broses hyblyg o gyflwyno ffeibr. Dylid nodi hefyd nad yw hwn yn faes datganoledig. Mae hwn yn faes y mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol amdano. O'i adael i'r farchnad ei hun, oddeutu 45 y cant yn unig o adeiladau Cymru fyddai'n cael cysylltedd band eang cyflym iawn. O ganlyniad i gamau gweithredu'r Llywodraeth hon, mae'r ffigur hwnnw bellach wedi codi i 95 y cant. Rydym wedi gwario £200 miliwn i sicrhau bod y bwlch a adawyd gan y farchnad a Llywodraeth y DU wedi'i lenwi. Ond yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth na allwn barhau i'w ddatblygu heb weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i geisio llenwi'r bwlch hwnnw.