Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 13 Chwefror 2019.
Na, mae'n ddrwg gennyf, mae'n rhaid inni fod yn glir: beth yw'r toriadau? Nid oes a wnelo hyn â thoriadau gan Lywodraeth Cymru—gan yr adran addysg a sgiliau. Mae hyn yn ymwneud â phenderfyniadau a wneir gan brifysgolion, yn seiliedig ar y ffordd y maent yn rheoli eu materion eu hunain. Nid yw hyn yn seiliedig ar doriadau gan Lywodraeth Cymru.