Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 13 Chwefror 2019.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Tybed a ddarllenoch chi'r dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Brifysgol Caeredin, yr Institute for Government a Phrifysgol Sussex, lle mynegodd y tystion hynny amheuon sylweddol ynglŷn ag unrhyw bŵer i'r sefydliadau datganoledig gael feto dros gytundebau masnach, a rhybuddiodd un o'r tystion yn bendant fod honno'n broses a allai fod yn beryglus, ac a oedd yn debygol o arwain at ostyngiad mawr yn nifer y cytundebau masnachol posibl a fyddai'n ddichonadwy. Nawr, yn amlwg mae angen ymgynghori effeithiol arnom—ymgynghori dwfn—gyda mecanwaith trylwyr, os yw sefydliad datganoledig yn pryderu ynghylch goblygiadau cytundeb masnach, fod hynny'n cael ei godi yn y Senedd hefyd, a cheir llawer o brosesau a fyddai'n caniatáu hynny. Byddai hynny'n mynd â ni ar drywydd tebyg i'r mecanweithiau a ddefnyddir, er enghraifft, yn Canada ac Awstralia. Ond a allwch ddweud wrthyf pa un a ydych yn diystyru'n bendant yr arf niwclear hwn o gael pŵer feto wedi'i sefydlu mewn sefydliadau datganoledig dros gytundebau masnachu?