Erthygl 50

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 13 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:05, 13 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Na, nid yw hynny'n wir. Ni allaf fod yn gliriach nag y bûm heddiw. Rydym wedi bod yn gwbl bendant ynghylch y math o berthynas gyda'r Undeb Ewropeaidd y mae Llywodraeth Cymru yn credu y byddai o fudd i Gymru ar ôl Brexit. Cefais wahoddiad gan Darren Millar i fabwysiadu'r safbwynt bod refferendwm yn well na hynny, ac rwy'n gobeithio fy mod yn glir bryd hynny. Pe gallai'r Senedd sicrhau cytundeb sy'n adlewyrchu'r egwyddorion rydym wedi'u nodi yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', a'r egwyddorion a amlinellwyd yn llythyr arweinydd yr wrthblaid yn gynharach yr wythnos hon, dyna'r math o berthynas y gallem ei chefnogi yn dilyn Brexit. Os nad yw hynny'n bosibl, rydym yn llwyr gydnabod mai'r ffordd o dorri'r anghytundeb hwnnw yw cynnal refferendwm arall. Mae'n safbwynt hollol bragmatig.