Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 13 Chwefror 2019.
Rwy'n credu bod angen i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru weithio gyda'i gilydd ar hyn, ac mae dedfrydau byr, rwy'n credu, yn arbennig o anodd, ac rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n cael dedfrydau byr, yn aml iawn am droseddau nad ydynt yn cynnwys trais yn erbyn unigolion, er enghraifft. Yn amlwg, os ydym yn defnyddio cosbau cymunedol, rydym yn llawer mwy tebygol o sicrhau nad yw sefyllfa dai troseddwyr yn cael ei heffeithio. A cheir peth tystiolaeth sy'n dangos bod rhywfaint o gylch lle mae rhai pobl yn dewis cyflawni trosedd arall a mynd yn ôl i'r carchar oherwydd bod hynny, o leiaf, yn rhoi to diogel uwch eu pennau. Ac mae hwn yn gamweithrediad gwarthus. Nid yw o fudd i neb o gwbl ac mae angen inni gael dull llawer gwell a mwy cydgysylltiedig o fynd i'r afael â hyn. Ond rwy'n credu bod cyfyngu cymaint â phosibl ar nifer y dedfrydau o dan flwyddyn yn ddechrau da o leiaf.