Part of the debate – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 13 Chwefror 2019.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wel, mae'n fis Chwefror, ac mae'n ddiwrnod San Ffolant yfory, a byddwn yn nofio mewn calonnau, fel y bydd pawb yn gwybod, ond y calonnau rwyf fi eisiau siarad amdanynt yw'r calonnau sy'n rhoi bywyd i ni, a hoffwn atgoffa pawb ei bod yn Defibruary yn ogystal â mis Chwefror. Gellir defnyddio diffibrilwyr awtomatig brys yn hawdd pan fydd rhywun wedi dioddef ataliad ar y galon. Gall pobl heb unrhyw hyfforddiant meddygol eu defnyddio i roi pwls trydanol yn ddiogel i unigolyn pan fydd y diffibriliwr yn canfod bod gan yr unigolyn dan sylw guriad calon afreolaidd sy'n eu rhoi mewn perygl uniongyrchol. Pan fydd rhywun yn dioddef ataliad ar y galon, mae'r gobaith o oroesi yn gostwng 14 y cant gyda phob munud sy'n mynd heibio heb driniaeth, a phan fo'r claf y tu allan i leoliad ysbyty, mae'n hanfodol ei fod yn cael triniaeth cyn gynted â phosibl.
Diolch i elusennau fel St John Cymru, sy'n aml yn bresennol ar feysydd pêl-droed mewn gwirionedd, Calonnau Cymru, Cariad, Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru, y Groes Goch, llawer o fusnesau, clybiau chwaraeon, cynghorwyr ac unigolion eraill hyd yn oed—maent oll wedi cyfrannu at wneud yn siŵr fod mwy o ddiffibrilwyr a mwy o hyfforddiant ar gael o fewn y gymuned, ac mae'n bosibl y byddwch eisiau dweud wrth etholwyr am Proactive First Aid Solutions. Edrychwch ar eu gwefan, oherwydd maent yn cynnig diffibriliwr a hyfforddiant yn rhad ac am ddim, cynnig sy'n werth dros £1,300, i sefydliadau, grwpiau cymunedol neu ysgolion. Fodd bynnag, nid yw diffibriliwr dan glo, neu ddiffibriliwr nad oes neb yn gwybod lle mae wedi'i leoli yn dda i ddim, felly, yn ystod Defibruary, gofynnaf i chi dynnu llun ohonoch eich hun wrth ymyl eich diffibriliwr cyhoeddus agosaf, ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol gyda'r hashnod 'Defibruary' ac annog eich etholwyr i wneud yr un peth—a byddwn gam yn nes at fod yn genedl o achubwyr bywyd. Diolch.