5. Datganiad gan y Llywydd: Cyflwyno Bil arfaethedig y Comisiwn — Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 13 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:25, 13 Chwefror 2019

Beth, felly, mae’r Bil yn ei gynnwys? Yn gyntaf, gostwng yr isafswm oedran pleidleisio i 16 ar gyfer etholiad Cynulliad 2021—amcan y Comisiwn yw i rymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Gan adeiladu ar y gwaith o ethol Senedd Ieuenctid gyntaf erioed Cymru y llynedd, mae’r Comisiwn yn gweithio gyda phartneriaid eraill i ymestyn yr etholfraint i gynnwys pobl ifanc 16 ac 17 oed mewn pryd ar gyfer etholiad Cynulliad 2021. Law yn llaw â’r ddarpariaeth hon mae’r angen am addysg wleidyddol briodol fydd yn galluogi pobl ifanc i ddeall eu hawliau democrataidd ac i gynyddu cyfranogiad mewn etholiadau. Mae’r Comisiwn yn gweithio gyda phartneriaid perthnasol i sicrhau bod y wybodaeth briodol yn cyrraedd cynifer o bobl ifanc â phosib cyn i’r newid cadarnhaol hwn ddod i rym.

Yn ail, bydd y Bil yn ailenwi’r Cynulliad yn 'Senedd'. Bydd ailenwi’r Cynulliad yn 'Senedd' yn sicrhau bod enw’r sefydliad yn adlewyrchu ei statws cyfansoddiadol ac yn helpu i wella dealltwriaeth gyhoeddus o rôl a chyfrifoldebau’r ddeddfwrfa yma. Bydd y cymal yn y Ddeddf sy’n nodi y gellir hefyd cyfeirio at y Senedd fel 'Welsh Parliament' yn adlewyrchu’r farn a fynegwyd gan nifer fod angen cynnwys yr opsiwn o ddefnyddio’r term esboniadol Saesneg yn y Bil i atgyfnerthu’r newid yn statws y sefydliad. Dyma ddatganiad clir, felly, fod 'Senedd' bellach yn gyfystyr â 'parliament' nid 'assembly'. Y bwriad yw y bydd y newid enw yn dod i rym yn gyfreithiol fis Mai 2020 i sicrhau bod y cyhoedd yn gyfarwydd gyda’r enw newydd mewn da bryd cyn etholiad Cymru yn 2021. Ynghlwm â’r newid hwn bydd newidiadau cysylltiol—er enghraifft, y disgrifydd sy’n ymddangos ar ôl enw Aelodau ac enwau cyrff megis y Comisiwn. Bydd Aelodau’r Cynulliad yn dod yn Aelodau o’r Senedd—'Members of the Senedd' yn Saesneg. 

Yn drydydd, bydd y Bil yn diwygio’r fframwaith ynghlwm ag anghymwyster i fod yn Aelod Cynulliad. Mae’r Comisiwn yn cyflwyno argymhellion a wnaed gan Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Chyfreithiol y pedwerydd Cynulliad a fyddai’n newid y gyfraith ar gymhwyster unigolion i sefyll. Diben y newid hwn fydd i sicrhau eglurder i ymgeiswyr posib am eu cymhwysedd i sefyll etholiad. Bydd y newid yn caniatáu'r mwyafrif o bobl i sefyll heb orfod ymddiswyddo o’i gwaith yn gyntaf, gydag ymddiswyddiadau o’r fath yn angenrheidiol pe baent yn cael eu hethol yn unig. Yn ogystal, bydd y cymal hwn yn gwahardd aelodau o Dŷ’r Arglwyddi rhag bod yn Aelodau Cynulliad, oni bai eu bod yn cymryd seibiant ffurfiol o’u gwaith yn San Steffan.

Yn olaf, mae’r Bil yn cynnig newidiadau i drefniadau etholiadol a mewnol y Cynulliad. Bydd y newidiadau ymarferol hyn yn creu mwy o hyblygrwydd yn dilyn etholiad drwy ymestyn y terfyn amser ar gyfer Cyfarfod Llawn cyntaf y Cynulliad o saith diwrnod i 14 diwrnod. Bydd hyn yn caniatáu mwy o amser i’r pleidiau gynnal trafodaethau pwysig wrth symud tuag at ethol Prif Weinidog a ffurfio llywodraeth. Un o amcanion eraill yr adran yma yw creu eglurder am hawl Comisiwn y Cynulliad i godi tâl am ddarparu gwasanaethau neilltuol i gyrff allanol.

Yn ogystal, barn Comisiwn y Cynulliad yw y dylai’r Cynulliad ystyried newid trefniadau cyllido a throsolwg y Comisiwn Etholiadol, gan ei fod eisoes yn gyfrifol am etholiadau datganoledig. Barn y Comisiwn Etholiadol yw y dylai gael ei gyllido gan a bod yn atebol i’r Cynulliad, yn hytrach na Senedd y Deyrnas Gyfunol am ei waith ynghlwm ag etholiadau Cymru, yn genedlaethol a lleol. Mae’r Mesur hwn felly yn rhoi dyletswydd ar y Senedd i ystyried y newid hwn. Os oes cefnogaeth ar ddiwedd Cyfnod 1 i symud ymlaen yn gynt gyda’r newid yma, yna gellid cyflwyno gwelliannau i’r perwyl yma yn ystod Cyfnod 2.

Bydd y Bil yn destun craffu helaeth drwy gyfuniad o sesiynau pwyllgor a’r Cyfarfod Llawn. Mae memorandwm esboniadol ar gael sydd yn sicrhau eglurder a thryloywder ynghylch goblygiadau cyllidol y Bil. Mae hefyd asesiadau manwl wedi'u cwblhau ar effaith y cynlluniau ar ieithoedd swyddogol y Cynulliad, cydraddoldeb a chynhwysedd, hawliau plant, y system gyfiawnder a meysydd eraill.

Wrth gwrs, man cychwyn yw’r Bil hwn. Wrth ei gyflwyno, fy ngobaith yw y bydd y Bil yn sbarduno dadleuon diddorol ac ystyrlon, ac yn annog cyfranogiad Aelodau, partneriaid a’r cyhoedd ehangach yn y drafodaeth am ddyfodol ein Senedd genedlaethol. Hoffwn hefyd gymryd y cyfle i ddiolch i’r Llywodraeth am eu cydweithrediad hyd yma wrth ddatblygu'r ddeddfwriaeth hyd yn hyn. Fel y mae’r Senedd Ieuenctid wedi'i brofi i ni mewn modd mor galonogol, mae yna awydd pendant gan ein pobl ifanc i chwarae eu rhan. Pa gyfle gwell nag achlysur penblwydd ein Senedd yn 20 mlwydd oed i'w hysbrydoli ac i'w cynnwys nhw, a phob dinesydd arall, yn uniongyrchol yng nghyfleon 20 mlynedd nesaf ein democratiaeth a'n Senedd ni? Diolch yn fawr.