Part of the debate – Senedd Cymru am 5:47 pm ar 13 Chwefror 2019.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw Gareth Bennett ar yr agenda heddiw. Hoffwn ddweud ar ddechrau'r ddadl hon fy mod yn credu'n gryf iawn mewn adsefydlu carcharorion a diwygio'r carchardai. Fel aelod o'r bar ers 40 mlynedd, cynrychiolais garcharorion ar sawl achlysur fel cyfreithiwr ar sail pro bono, ac roedd rhai ohonynt wedi'u cyhuddo o droseddau difrifol iawn, yn cynnwys llofruddiaeth ddwbl mewn un achos. Ac yna, wedi iddynt gael eu rhyddhau o'r carchar, rwyf wedi parhau i'w cynrychioli er mwyn cael cyfiawnder lle credaf eu bod wedi cael eu trin yn annheg ac wedi dioddef anghyfiawnder. Pe bawn yn credu bod unrhyw werth adsefydlol o sylwedd mewn cynnig pleidleisiau i rai sy'n bwrw dedfryd o garchar, buaswn yn bendant iawn o'i blaid, ond yn anffodus nid wyf yn credu hynny.
Mae'r newid yn y gyfraith sydd yn yr arfaeth yn Lloegr, a Chymru a'r Alban hefyd, yn deillio o achos a gyflwynwyd yn Llys Ewrop gan ddyn sydd mor anhaeddiannol ag y gallech ddychmygu—John Hirst, dyn a dreuliodd oes gyfan yn cyflawni troseddau treisgar ac a laddodd ddynes y bu'n aros gyda hi â bwyell tra'i fod ar barôl wedi dedfryd o ddwy flynedd am fwrgleriaeth, gan ei tharo saith gwaith, ac er mai am 11 diwrnod yn unig y bu'n lletya gyda hi, oherwydd ei bod hi'n swnian arno'n gyson pan âi allan, fe ddywedodd nad oedd yn teimlo unrhyw edifeirwch ac fe'i tarodd hi â'r fwyell. Plediodd yn ddieuog o lofruddiaeth ond yn euog o ddynladdiad. Yn rhyfeddol, cafodd hynny ei dderbyn gan bennaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron ar y pryd ar sail cyfrifoldeb lleiedig. Ond dywedodd y barnwr, wrth ei ddedfrydu i 15 mlynedd o garchar:
Nid oes gennyf amheuaeth nad ydych yn unigolyn trahaus a pheryglus gyda gwendid difrifol yn eich personoliaeth... Yn anffodus, nid yw hyn yn eich gwneud yn addas i gael triniaeth mewn ysbyty meddwl.
Yn y carchar, ymosododd Hirst ar swyddog carchar, gan arwain at ei drosglwyddo i uned ddiogelwch wedi'i neilltuo ar gyfer y carcharorion mwyaf peryglus a bu yn y carchar am 25 mlynedd oherwydd ymddygiad treisgar a throseddau eraill tra'i fod yn y carchar, cyn ei ryddhau yn 2004. Felly, nid wyf yn meddwl bod hwnnw'n ddechrau da iawn.
Aeth yr achos gerbron Llys Hawlau Dynol Ewrop ac yn y pen draw llwyddodd yn ei hawliad fod y gyfraith fel y mae ar hyn o bryd yn y Deyrnas Unedig yn anigonol i ddiogelu hawliau dynol carcharorion. O dan brotocol 1, erthygl 3 o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, sydd ond yn dweud bod:
'Partïon Contractu Uchel'
—ac mae'r Deyrnas Unedig yn un ohonynt—
'yn ymgymryd i gynnal etholiadau rhydd ar gyfnodau rhesymol trwy bleidlais gyfrinachol, o dan amodau a fydd yn sicrhau mynegiant rhydd o farn y bobl wrth ddewis y ddeddfwrfa.'
Felly, dyna egwyddor gyffredinol fras iawn, fel sy'n arferol, mewn gwirionedd, yn iaith gyfreithiol y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, sy'n rhoi rhyddid aruthrol i farnwyr ddehongli yn y modd y gwelant yn addas. Yn fy marn i, mae'n drahaus o hawliau democrataidd sefydliadau fel Llywodraeth y Cynulliad neu Senedd y Deyrnas Unedig, ac rwy'n credu ei bod yn beryglus fod actifiaeth farnwrol o'r fath yn digwydd oherwydd, pan fydd y barnwyr wedi gwneud penderfyniad, nid oes unrhyw apêl yn y pen draw, ac nid yw'r bobl yn gallu newid dyfarniadau barnwyr yn y llys Ewropeaidd oherwydd ni allwch wneud hynny oni bai eich bod yn gallu newid y confensiwn, ac mae hynny'n beth anodd eithriadol i'w wneud, a beth bynnag, mae'r iaith yn ei gwneud hi'n amhosibl ei wneud mewn achosion penodol, a dyna pam y credaf y dylem ddod â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn ôl i'r wlad hon a deddfu ar gyfer ein Bil Hawliau ein hunain y gall unigolion a etholwyd yn ddemocrataidd ei newid mewn achosion priodol. Mae siarter hawliau sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd yn erthygl 39(2) yn darparu math tebyg o ddarpariaeth sydd hefyd wedi bod yn destun ymgyfreitha yn Llys Cyfiawnder Ewrop. Y cyfan y mae hwnnw'n ei ddweud yw bod Aelodau Senedd Ewrop i'w hethol drwy hawl gyffredinol uniongyrchol mewn pleidlais rydd a chudd.
Yn achos Delvigne 2015, deilliodd canlyniad tebyg i achos Hirst ohono. Nawr, dywedodd yr Arglwydd Hoffman, nad yw'n ddadleuwr tanbaid dros yr asgell dde, fod Llys Hawliau Dynol Ewrop wedi methu gwrthsefyll y demtasiwn i ddyrchafu ei awdurdodaeth a gosod rheolau unffurf ar yr aelod-wladwriaethau, a dywedodd Geoffrey Robertson QC, sy'n baragon o ryddfrydiaeth, mewn pamffled a ysgrifennodd o'r enw 'Why we need a Brtish Bill of Rights' fod y Confensiwn Ewropeaidd yn methu cynnwys yr hawliau a enillodd y Senedd drwy'r "Chwyldro Gogoneddus" yn 1689, ac mae tystiolaeth gynyddol yn bodoli fod geiriau slec y confensiwn Ewropeaidd yn niweidio hawliau sylfaenol eraill, ac mae'r confensiwn mewn rhai ffyrdd yn hen ffasiwn.
Felly, beth bynnag y mae rhywun yn ei feddwl o'r mater yn ei hanfod—[Torri ar draws.] Iawn, fe wnaf.