8. Dadl Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Carchardai a Charcharorion

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:52 pm ar 13 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 5:52, 13 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Nid oes ganddynt sofraniaeth i wneud y penderfyniad na ddylai unrhyw un sy'n bwrw dedfryd o garchar gael yr hawl i bleidleisio, ac yn fy marn i mae'n gwbl briodol mewn gwlad ddemocrataidd y dylai cynrychiolwyr etholedig y bobl allu gwneud y dewis hwnnw os ydynt o'r farn ei fod er budd gorau eu pobl eu hunain. Oherwydd mae'r Confensiwn Ewropeaidd wrth gwrs yn rhoi'r hawl i ryddid na fyddai neb yn dadlau yn ei erbyn, ac mae pawb yn credu ei fod yn beth da. Ond wrth amddifadu rhywun o'i ryddid, rydym yn eu hamddifadu o hawliau sylfaenol eraill o dan y confensiwn neu'r siarter hawliau sylfaenol. Mae carcharorion yn cadw'r hawl i fywyd teuluol yn y carchar; ni chânt gasglu eu plant o'r ysgol na rhoi cusan nos da iddynt. Mae ganddynt hawl i ryddid mynegiant a rhyddid crefyddol, ond drwy ddiffiniad, maent yn colli'r hawl i ryddid i ymgynnull.

Gan gymryd eu bod wedi'u heuogfarnu'n briodol, wrth gwrs, roedd gan unrhyw un sydd yn y carchar ddewis i'w wneud, cyn iddo ef neu hi gyflawni trosedd, y gallent beidio â chyflawni'r drosedd a gweithredu o fewn y gyfraith mewn gwirionedd, gan wybod, pe baent yn cael eu heuogfarnu a'u hanfon i garchar mai un o'r pethau y byddent yn eu colli yn ogystal â'u rhyddid i symud o amgylch y tu allan i waliau'r carchar yw'r rhyddid i bleidleisio. Mae'n ymddangos i mi fod hwnnw'n safbwynt cwbl dderbyniol gan unrhyw un sy'n ennyn ymddiriedaeth y bobl a etholwyd ganddynt, fel rydym ni yn y sefydliad hwn yn ei wneud. Yn wir, dywedodd Chris Bryant, yr Aelod Seneddol dros y Rhondda, mewn araith yn Nhŷ’r Cyffredin yn 2011:

nid rôl Llys Hawliau Dynol Ewrop yw deddfu ynghylch pwy sy'n cael pleidleisio yn y DU. Fel y dadleuodd Llywydd y Llys ac eraill yn eu barn anghydsyniol ar Hirst, oherwydd mai mwyafrif o 12 i bump a arweiniodd at ddyfarniad Hirst,  mae'n hanfodol cadw mewn cof nad yw'r llys yn ddeddfwrfa a dylai fod yn ofalus i beidio ag ymgymryd â swyddogaethau deddfwriaethol.

Dyna pam yr ydym wedi dadlau— dyma a ddywedodd Chris Bryant— yn y Siambr Fawr— a sôn am Lywodraeth Lafur a wnâi—

Dyna pam yr ydym wedi dadlau yn y Siambr Fawr fod y Llys yn gweithredu ultra vires a pham y credwn mai mater i'r Senedd—a'r Senedd yn unig—yw deddfu ar hyn ar gyfer y DU.

Rwy'n ildio.