Part of the debate – Senedd Cymru am 5:43 pm ar 19 Chwefror 2019.
Iawn. Felly, mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar Reoliadau Dyletswydd Gofal o ran Gwastraff Cartref (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2019, ac rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y rheoliadau 41, neb yn ymatal, dau yn erbyn. Felly mae'r rheoliadau wedi eu derbyn.