Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 19 Chwefror 2019.
Wel, Llywydd, byddwn yn barod i edrych ar gynigion yr Aelod ar yr amod y gall ef wneud dau beth: yn gyntaf oll y bydd yn darparu costau sy'n rhesymol ac yn ddibynadwy, ac yn ail y bydd ef yn dweud wrthyf o ble yn Llywodraeth Cymru y mae'n cynnig fy mod yn cymryd yr arian i dalu am ei syniad newydd.