Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 19 Chwefror 2019.
Llywydd, o 1 Mawrth, bydd unrhyw berson ifanc rhwng 16 a 21 oed yn cael gwneud cais i deithio ar fysiau am bris gostyngol yng Nghymru. O fis Ionawr y flwyddyn nesaf, bydd Trafnidiaeth Cymru yn ymestyn teithio ar reilffyrdd am ddim i blant dan 11 mlwydd oed. Bydd y ddwy fenter hon yn helpu i greu defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus y dyfodol.