Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 19 Chwefror 2019.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna ac am dynnu sylw at y ffigurau rhagorol hynny a grybwyllwyd ganddi—dros 1,300,000 o deithiau gostyngol a ddigwyddodd o ganlyniad i'r fenter mytravelpass yn 2017-18. Yn yr ychydig ddyddiau ers i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth lansio'r ceisiadau am y cerdyn newydd ac estynedig, yr wythnos diwethaf, mae dros 500 o geisiadau wedi dod i law, ac rwy'n siŵr y bydd fy nghyd-Aelod yn ystyried ffyrdd y byddwn yn gallu dadgyfuno'r data hynny a rhoi gwybod i Aelodau o gwmpas y Siambr sut y defnyddir y cerdyn yn eu hetholaethau eu hunain.