Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 19 Chwefror 2019.
Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar faterion o ddiddordeb cyffredin, er mwyn gwneud cymunedau yn fwy diogel, gan gynnwys gweithredu strategaethau troseddu cyfundrefnol difrifol a thrais difrifol y Swyddfa Gartref. Mae'r rhaglen cymunedau mwy diogel y bûm yn ei chadeirio yn ddiweddar yn cynnwys cynrychiolaeth gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.