Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 19 Chwefror 2019.
Mae gwefan Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dweud bod partneriaethau diogelwch cymunedol, sy'n cynnwys cynghorau, yr heddlu, yn ogystal â gwasanaethau tân ac achub, byrddau iechyd a gwasanaethau prawf, yn gweithio i gynnig dull amlasiantaeth effeithiol. Ond heblaw am gyfeirio at weithio gyda chynghorau a chymunedau, nid oes unrhyw gyfeiriad at y trydydd sector. Fodd bynnag, dywedodd Llywodraeth Cymru, yn ei dogfen ‘Gweithio gyda’n Gilydd i greu Cymunedau mwy Diogel: Adolygiad gan Lywodraeth Cymru o drefniadau gweithio mewn partneriaeth i wella diogelwch cymunedol yng Nghymru’ a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2017, fod asiantaethau trydydd sector yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau diogelwch cymunedol yn gynyddol, gan gynnwys cymorth i ddioddefwyr, rhaglenni ar gyfer tramgwyddwyr a chynlluniau dargyfeirio ymddygiad gwrthgymdeithasol, a gweithgareddau gwrthradicaleiddio. Fodd bynnag mae ymatebwyr o asiantaethau'r trydydd sector wedi adrodd mai siarad yn unig y mae asiantaethau statudol yn ei wneud yn aml ynghylch y syniad o’u cynnwys nhw a chyd-gynhyrchu â nhw.
Pa gamau ydych chi wedi eu cymryd, neu y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, felly, ar ei datganiad yn yr adroddiad hwnnw mai eich gweledigaeth yw Cymru lle
'Mae gan y Llywodraeth ac asiantaethau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector gydgyfrifoldeb am gydweithio gyda’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu a’r sector preifat i fynd i’r afael â gweithgarwch neu ymddygiad sy’n anghyfreithlon, yn wrthgymdeithasol, yn niweidiol i unigolion a’r gymdeithas ac i’r amgylchedd' a
'Cryfhau rôl a statws sefydliadau’r trydydd sector o fewn trefniadau gweithio mewn partneriaeth i wella diogelwch cymunedol' yn allweddol?