Part of the debate – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 19 Chwefror 2019.
Diolch yn fawr iawn ac, wrth gwrs, mae'r Dirprwy Weinidog yn ymwybodol o'ch pryder ynglŷn â ffordd osgoi Cas-gwent. Ond ynglŷn â'r mater ynghylch llawer mwy o gydweithio ar draws ffiniau, rwy'n credu bod hynny'n bwynt pwysig sy'n haeddu rhywfaint o drafodaeth bellach rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o ran sut orau y gallwn ni sicrhau bod traffig yn symud yn araf ac nad yw diffyg cydgysylltu a chyfathrebu yn atal hynny.