Part of the debate – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 19 Chwefror 2019.
Nid ydym yma yr wythnos nesaf, oherwydd y toriad, ond mae'n Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta ac mae yna ymgyrch, 'I'm socking it to eating disorders', lle maen nhw'n gofyn i bobl wisgo sanau smart, lliwgar a phostio hyn ar y cyfryngau cymdeithasol. Gan gymryd bod gan Aelodau'r Cynulliad sanau smart, lliwgar, byddwn yn annog pobl i gefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta drwy gymryd rhan yn y gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol. Rwyf hefyd yn gofyn am ddiweddariad gan y Llywodraeth ar adolygiad y fframwaith ar gyfer anhwylderau bwyta. Rwy'n falch bod y Gweinidog wedi bod yn gweithio'n gadarnhaol â'r sector yn y broses adolygu hon. A gawn ni fanylion y cynnydd ar hynny? Rwyf wedi bod yn feirniadol o'r Llywodraeth ar lawer o bethau, ond hoffwn ddiolch i'r Llywodraeth am groesawu'r cysyniad o weithio â dioddefwyr a'u teuluoedd i adnewyddu'r fframwaith hwn, fel y gallwn gael y fargen orau i'r rhai sydd ag anhwylderau bwyta yng Nghymru.
Mae fy ail gwestiwn yn ymwneud â rhywbeth yr wyf wedi'i godi sawl gwaith erbyn hyn mewn cysylltiad â sefyllfa'r Cwrdiaid yma yng Nghymru a thu hwnt. Cynhaliwyd gwrthdystiad yng Nghasnewydd dros y penwythnos. Rwyf wedi gweld lluniau o'r heddlu yn ymddwyn yn ddi-lol tuag at ymgyrchwyr a oedd ond yn protestio, h.y. yn protestio'n heddychlon, yn cerdded ar hyd y stryd, yn codi pryderon am wleidyddion Cwrdaidd a garcharwyd gan gyfundrefn awdurdodaidd Twrci. Rwyf yn siomedig â'r ffordd y mae'r heddlu yn y wlad hon wedi trin protestwyr. Credaf fod angen inni gael dadl ar gydlyniant cymunedol, oherwydd rwyf hefyd wedi gweld rhai sylwadau yn y cyfryngau cymdeithasol gan bobl o Gymru yn dweud, 'Wel, os ydynt yn dymuno ymgyrchu dros y materion hyn, dylent fynd i Dwrci i wneud hynny.' Onid ydynt yn sylweddoli, petaent yn mynd i Dwrci, lawer ohonynt, yn enwedig os ydynt yn fenywod, byddent yn cael eu carcharu a'u curo ar strydoedd Twrci oherwydd iddynt sefyll dros hawliau'r bobl Gwrdaidd a'r gwleidyddion? Felly, byddwn yn eich annog yma i roi datganiad inni ar yr hyn y gall yr heddlu ei wneud i gael cysylltiadau cadarnhaol â'r gymuned Gwrdaidd yma yng Nghymru, ac mae llawer ohonynt yma, fel y gallwn sicrhau ein bod yn dod at setliad gwleidyddol heddychlon. Gwyddom y gall ymosodiad ddigwydd yn fuan gan Dwrci ar y ffin rhwng Syria a Thwrci ac mae gwir angen inni gefnogi pobl nid yn unig yn y wlad hon, ond hefyd dangos cefnogaeth i'r rhai yn Nhwrci sydd o'r gymuned Gwrdaidd, a'n bod yn parhau i wneud hynny.