Part of the debate – Senedd Cymru am 4:08 pm ar 19 Chwefror 2019.
Diolch, Gweinidog, am gopi o flaen llaw o'ch datganiad y prynhawn yma. Rwy'n falch iawn o weld y buddsoddir arian parod i drawsnewid ein gwasanaethau iechyd yma yng Nghymru. Fe wyddom ni ein bod ni ar ei hôl hi mewn rhai agweddau o gymharu â rhai rhannau eraill o'r DU, yn enwedig o ran datblygu gweithio'n agosach rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Ond mae'n galonogol ein bod o'r diwedd yn buddsoddi yn y modelau newydd hyn o ofal er mwyn cael canlyniadau gwell ar gyfer ein cleifion. Mae'r arian parod, fodd bynnag, a gafodd ei wario hyd yma yn debyg i biso dryw yn y môr o gymharu â'r gyllideb iechyd gyffredinol, fel y gwyddom ni i gyd. Felly, rwy'n credu bod y disgwyliad sydd gennych chi y bydd hwn yn gatalydd ar gyfer newid sylweddol yn ystod y Cynulliad hwn efallai ychydig yn rhy uchelgeisiol.
Nawr, sylwaf ichi ddweud eich bod chi eisoes wedi cymeradwyo saith cynnig, ac rwy'n credu bod hynny'n dda. Rwy'n credu yn y datganiad diwethaf, dim ond dau mewn gwirionedd oedd wedi eu cadarnhau ar y pryd. A allwch chi ddweud wrthym ni: a yw pob un o'r rhain wedi dechrau erbyn hyn? Rydych chi wedi cyfeirio at y ffaith eu bod yn gynigion sy'n adlewyrchu pob rhan o Gymru; bod rhywbeth yn gweithredu ym mhob ardal partneriaeth ranbarthol unigol, ond nid ydych chi wedi rhoi llawer iawn o fanylion ac eithrio dwy neu dair brawddeg am yr hyn sy'n digwydd yn benodol mewn gwahanol leoedd. Ac nid ydych chi chwaith wedi rhoi dosraniad inni o'r £41.2 miliwn i ddangos yn lle y mae'r arian yn cael ei wario mewn gwirionedd. Felly, rwy'n gofyn ichi ym mha ardaloedd byrddau iechyd ac ardaloedd byrddau partneriaeth rhanbarthol y mae'r £41.2 miliwn hwnnw yn cael ei wario? A yw'n cael ei wario'n hafal ym mhob rhan o Gymru, neu a oes rhai yn elwa mwy nag eraill?
Tybed hefyd, yn benodol, beth sy'n newydd ynghylch yr arian a fuddsoddir, oherwydd o'r hyn a ddisgrifiwch—er enghraifft, y defnydd o dechnoleg gynorthwyol, asedau cymunedol, gweithgareddau ar draws y cenedlaethau, rhywfaint o'r gwaith ataliol sy'n mynd rhagddo, gofal heb ei drefnu ar ôl dychwelyd o'r ysbyty—mae llawer o hynny yn digwydd beth bynnag yn ein hardaloedd byrddau iechyd, a hynny'n gwbl briodol. Dylen nhw fod yn buddsoddi yn y mathau hyn o bethau oherwydd mae modd arbed arian yn ddiweddarach. Felly, sut gallwch chi fod yn sicr bod y prosiectau yn ychwanegu gwerth at y gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo yn ein hardaloedd byrddau iechyd ac nid yn cefnogi'r byrddau iechyd hynny yn unig, rhai sydd efallai ychydig yn ddiog eu hagwedd ynghylch trawsnewid gwasanaethau yn eu hardaloedd eu hunain?
Rydych chi wedi sôn bod cynllunio gweithlu, neu ddatblygu gweithlu, yn thema gref. Rwy'n falch o glywed hynny, oherwydd fe wyddom ni y buom ni'n warthus yma yng Nghymru o ran cynllunio gweithlu, boed hynny yn weithlu nyrsio, gweithlu bydwreigiaeth, gweithlu meddygon teulu. Fe wnes i grybwyll eisoes y ffaith eich bod chi'n gwrthod pobl sydd eisiau hyfforddi fel meddygon teulu a dod i weithio yng Nghymru. Mae'n gwbl wallgof, i fod yn onest, nad ydych chi'n creu mwy o leoedd hyfforddi i ddiwallu'r angen sydd gennym ni yng Nghymru o ran y prinder yn rhai o'r disgyblaethau hyn. A wnewch chi ddweud yn union faint o staff ychwanegol yr ydych chi'n disgwyl a fydd o bosib yn cael eu recriwtio a'u datblygu o ganlyniad i'r cynigion sy'n cael eu gweithredu ar hyn o bryd?
Nid ydych chi chwaith wedi rhoi unrhyw syniad inni o sut y mae'r buddsoddi yn cael ei rannu rhwng gofal cymdeithasol, gofal cymunedol, gofal sylfaenol, gofal eilaidd. Rydym ni'n gwybod, pan fyddwch chi'n buddsoddi mewn gofal sylfaenol a gwasanaethau cymunedol, ei fod yn tueddu i dynnu'r pwysau oddi ar ofal eilaidd, sydd yn aml yn gallu bod yn ddrutach. Felly, ar gyfer pa ran o faes gofal y bwriedir yr arian hwn? A yw ar gyfer gofal ysbyty, neu a yw ar gyfer gofal sylfaenol a chymunedol, sef y lle rwy'n credu y mae angen o bosib inni ganolbwyntio arno?
Fe wnaethoch chi gyfeirio at yr adolygiad cyflym yr ydych chi wedi ei wneud, o raddfa a lledaeniad y cynigion. Fe ddywedoch chi fod canlyniad yr adolygiad cyflym yn galonogol. A allwch chi gyhoeddi manylion yr adolygiad? A allwch chi ddweud wrthym sut yr aethoch chi ati i gynnal yr adolygiad, i brofi beth oedd yn digwydd ar lawr gwlad? Fe wn i ei bod hi'n ddyddiau cynnar o ran rhai o'r prosiectau hyn, ond mae rhai wedi bod yn mynd rhagddynt ers cryn amser bellach, ac rwy'n credu y dylem ni weld yn eithaf buan pa un a ydyn nhw'n llwyddo ac yn gynaliadwy neu beidio, a pha rai y gellir eu lledaenu o ran eu hymarfer ledled Cymru.
Fe wnaethoch chi hefyd gyfeirio at ewyllys da partneriaid wrth gyflawni'r newid sydd ei angen. Nawr rwy'n gwybod y bu ymgysylltu da a chadarnhaol â phartneriaid fel Ambiwlans Sant Ioan a'r Groes Goch Brydeinig yn ddiweddar, a dyna waith rwy'n ei gymeradwyo, sydd wedi bod yn digwydd mewn gwahanol rannau o Gymru. A allwch chi ddweud wrthym ni a yw'r partneriaid hyn, yn enwedig partneriaid y trydydd sector, mewn gwirionedd yn cymryd rhan yn unrhyw un o'r prosiectau hyn, ac os felly, ym mha ffordd? Oherwydd rwy'n credu y byddai'n dda gwybod a ydych chi'n adeiladu ar yr hyn sy'n amlwg wedi bod, yn sicr o'r argraff a gefais i, yn llwyddiant mawr iawn gyda'r Groes Goch Brydeinig yn y gogledd.
Rwy'n credu mai dyna'r cyfan o'r cwestiynau sydd gennyf ar hyn o bryd, Dirprwy Lywydd, ond fe hoffwn i ddweud ein bod yn croesawu'r buddsoddiad hwn. Rydym ni'n croesawu symudiad i'r cyfeiriad cywir. Ond rwyf yn credu bod yn rhaid inni sicrhau bod hyn yn fuddsoddiad yn y mannau priodol ac nid dim ond yn disodli buddsoddiad a ddylai fod ar waith eisoes, a gwaith a ddylai fod yn digwydd eisoes yn ein hardaloedd byrddau iechyd.