4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Gronfa Trawsnewid

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 19 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:00, 19 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Yn 2016, cytunodd y pedwar grŵp plaid yn y Cynulliad hwn i sefydlu adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Cyhoeddwyd adroddiad yr arolwg seneddol ym mis Ionawr 2018. Roedd yr adroddiad hwnnw yn cydnabod ein fframwaith deddfwriaethol sy'n arwain y byd, y strwythurau sefydliadol sy'n sail iddo, ac ymroddiad ein gweithlu iechyd a gofal. Ond roedd hefyd yn cynnwys rhai negeseuon anodd i ni, gan osod her inni drawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Y neges syml wrth wraidd yr arolwg seneddol oedd nad yw ein system iechyd a gofal cymdeithasol presennol yn addas ar gyfer y dyfodol. Nid dim ond dymunol yw newid. Mae newid yn hanfodol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu argymhellion yr adolygiad. Drwy gydol y gwanwyn y llynedd, buom yn gweithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid ym maes iechyd, llywodraeth leol, y sector gwirfoddol a'r maes tai i ddatblygu ein hymateb. A chyhoeddais 'Cymru Iachach', ein cynllun cyntaf ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, ym mis Mehefin y llynedd. Wedi ei grynhoi mewn 40 gweithred, mae'n nodi'r camau y byddwn ni'r Llywodraeth yn eu cymryd ynghyd â'r camau y mae angen i'n partneriaid eu cymryd gyda ni, ac yn bennaf y camau y mae ein partneriaid yn cytuno sydd angen eu cymryd i fynd ati gyda'n gilydd i ddiwygio a thrawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

O fewn wythnosau ar ôl cyhoeddi 'Cymru Iachach', cyhoeddais fod rhaglen trawsnewid wedi ei sefydlu—argymhelliad allweddol yn yr adolygiad. Cefnogir y rhaglen honno gan gronfa trawsnewid gwerth £100 miliwn, a bwriad y gronfa yw gweithredu fel catalydd i gyflymu uwchraddio modelau gofal newydd sydd â'r potensial i newid yn sylfaenol sut yr ydym ni'n darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Ac nid yw'r newid hwnnw yn hafaliad ariannol yn unig. Mae'n rhaid inni sicrhau mwy o werth yn y ffordd y mae pob partner yn defnyddio ei adnoddau i wella ansawdd y gofal. Gwell canlyniadau a gwell profiadau gyda ac ar gyfer ein pobl sy'n sbarduno'r rhaglen hon ar gyfer newid.

Gwyddom y bydd y galw am iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i gynyddu. Y rheswm dros hyn yn rhannol yw'r newidiadau yn y ffordd yr ydym ni'n byw ein bywydau, newidiadau i ddisgwyliad oes, technoleg, newidiadau yn y cyd-destun economaidd-gymdeithasol a newid yn y disgwyliadau o ran beth ddylai gofal iechyd modern allu ei ddarparu. Caf fy atgoffa'n rheolaidd, er gwaethaf bron i ddegawd o gyni, nad yw disgwyliadau'r cyhoedd na gwleidyddion wedi gostwng o ran ein gwasanaeth iechyd gwladol. Yn ogystal ag ystyried gweithdrefnau gofal iechyd newydd, meddyginiaethau newydd, gofal cymdeithasol wedi ei alluogi drwy dechnoleg newydd, dylai modelau newydd ystyried hefyd beth sy'n bwysig i bobl—y bobl sy'n ceisio gofal cymdeithasol neu ofal iechyd a'r bobl sy'n ei ddarparu. Ar ryw adeg yn ein bywydau, mae hyn yn golygu pawb.

Mae'n hanfodol bod modelau newydd ar gyfer gofal yn gydlynol ac yn fforddiadwy. Rydym ni eisiau cysylltu a symleiddio gwasanaethau ar lefel ranbarthol, felly mae byrddau partneriaeth rhanbarthol yn hanfodol er mwyn gwneud i hyn ddigwydd. Croesawaf y ffordd y mae partneriaid wedi gweithio gyda'i gilydd drwy fyrddau partneriaeth rhanbarthol wrth ddatblygu cynigion yn gyflym ar gyfer y gronfa trawsnewid. Mae'r modelau a gefnogir gan y gronfa wedi'u cynllunio i ddarparu gofal yn agosach at gartref, gan gyfuno gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gyda mwy o bwyslais ar atal.

Rydym ni i gyd yn cydnabod nad yw trawsnewid y system gyfan yn dasg hawdd na chyflym, ond rydym ni'n wynebu heriau sylweddol. Ni all y gronfa ddatrys pob un o'r pryderon hyn, ond gall helpu i ddangos sut y gallwn ni wneud pethau'n wahanol a sut y gallwn ni wneud pethau'n well. Hyd yma, rwyf wedi cymeradwyo saith o gynigion gan fyrddau partneriaeth rhanbarthol ledled Cymru. Caiff y rhain eu cefnogi gan hyd at £41.2 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf ar gyfer y cynlluniau hynny sydd wedi'u cymeradwyo. Rwy'n disgwyl cael mwy o gynigion yn fuan iawn i mi eu hystyried. Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol. Rwy'n disgwyl gweld cynnydd gwirioneddol yn y ffordd y mae gwasanaethau yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu gwasanaethau mwy effeithiol ac effeithlon a fydd yn ei gwneud hi'n haws i bobl fanteisio arnyn nhw, ac wrth gwrs, i sicrhau gwell canlyniadau.

Mae'r cynigion yr ydym ni wedi'u cael hyd yma yn fy nghalonogi. Mae pob partneriaeth ranbarthol wedi cyflwyno syniadau ac ymrwymiad i drawsnewid. Mae gennym ni gynigion portffolio o Gaerdydd a'r Fro, gorllewin a gogledd Cymru, sy'n cwmpasu amrywiaeth o wasanaethau, o ofal ataliol i ofal heb ei drefnu, i ofal ar ôl gadael yr ysbyty. Mae gennym ni gynigion o Went a Bae'r Gorllewin, gogledd Cymru a Chaerdydd a'r Fro, gyda phwyslais ar symud gofal o ysbytai yn agosach i'r cartref, ac o'r gorllewin, ynglŷn â'r bwriad i ddefnyddio technoleg gynorthwyol, asedau cymunedol a'r cymorth sy'n pontio'r cenedlaethau ar draws cymunedau.

Mae rownd gyntaf y cynigion yn dangos ymateb bywiog a hyderus gan ein partneriaethau rhanbarthol. Maen nhw'n dwyn  partneriaid ynghyd o bob rhan o'r maes iechyd a gofal cymdeithasol ac yn dechrau llunio'r trawsnewid y mae 'Cymru Iachach' yn ei ddisgrifio. Rydym ni'n gweld ymdrechion i rannu arfer da y tu hwnt i ffiniau rhanbarthol ac, yn galonogol, ceir themâu cyffredin o ran ffurf y newid hwn. Ceir pwyslais cryf ar bontio bylchau ac ail-lunio sut y mae pobl yn manteisio ar ofal iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae datblygu'r gweithlu yn thema gref yn y cynigion, sy'n adlewyrchu'r pwyslais ar bobl sy'n elfen greiddiol o 'Cymru Iachach', gan gynnwys y nod pedwarplyg. Heb ymroddiad y bobl sy'n gweithio yng ngwasanaethau rheng flaen iechyd a gofal cymdeithasol ac yn y trydydd sector, ni allwn ni gyflawni'r trawsnewid hanfodol sydd ei angen.

I sicrhau ein bod ni'n aros ar y trywydd iawn, rydym ni'n gwerthuso ac yn herio ein hunain wrth ddatblygu rhaglen trawsnewid. Bu'r adolygiad cyflym diweddar a gomisiynwyd gennym ynglŷn â graddfa ac ymlediad y cynigion yr ydym ni wedi eu hariannu drwy'r gronfa trawsnewid yn galonogol. Mae hi yn bwysig y caiff modelau newydd sy'n dod i'r amlwg eu gwerthuso fel y maen nhw'n datblygu er mwyn i'r dulliau mwyaf addawol gael eu datblygu ar gyfer eu mabwysiadu'n ehangach ledled Cymru. Rydym ni'n gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu cyfres o ddangosyddion cenedlaethol a fydd yn cefnogi'r nod hwn. Rwy'n ffyddiog, gyda chymorth parhaus ac ewyllys da ein partneriaid, y gallwn ni gyflawni'r newid yr ydym ni i gyd yn cydnabod sydd ei angen, a'i angen yn awr. Ein her yw sicrhau y ceir trawsnewidiad gwirioneddol a'n bod yn osgoi'r demtasiwn i ganolbwyntio ar yr anghenion mwyaf enbyd yn unig.

Mae edrych y tu hwnt i anghenion uniongyrchol a dybryd yn gofyn am ymdrech ychwanegol, a dim ond os gweithiwn ni mewn partneriaeth y mae modd ei gyflawni. Felly, bydd rhan y partneriaethau rhanbarthol yn hyn yn parhau i fod yn hollbwysig, wrth iddyn nhw ddarparu'r cyfrwng i arweinyddion ym maes iechyd a gofal cymdeithasol gydweithio ag eraill i gynllunio a darparu gwasanaethau sy'n diwallu anghenion poblogaethau lleol.

Ychydig dros flwyddyn ar ôl cyhoeddi'r adolygiad seneddol, mae ein cronfa trawsnewid eisoes yn gwneud gwahaniaeth. Gallai pob model newydd a gefnogir helpu i lywio a thrawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Yr hyn sydd hyd yn oed yn fwy pwysig yw ein bod wedi dechrau gweld newid a chysylltiadau gwell yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol drwyddo draw, gyda mwy o ymdeimlad o rannu uchelgais. Mae hynny'n mynd ymhell y tu hwnt i'r gronfa trawsnewid a bydd angen ewyllys da ac arweinyddiaeth i gynnal y dull gweithredu hwnnw a sicrhau'r newid sydd ei angen. Mae gennym ni lawer i'w wneud o hyd.