Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 20 Chwefror 2019.
Ysgrifennodd yr Aelod ataf tua diwedd Ionawr, ac ysgrifennais yn ôl atoch ar 13 Chwefror i egluro nad oeddem wedi darparu unrhyw gytundeb i ariannu gwaith. Oherwydd rwy'n credu o ddifrif fod angen i'r awdurdod lleol ymuno â buddiolwyr trydydd parti eraill—fe enwoch chi Network Rail yn un ohonynt—gan fy mod yn credu—wyddoch chi, mae hwn yn gynllun gwerth £37 miliwn; byddai hynny'n mynd â fy nghyllideb i gyd. Felly, rwy'n credu o ddifrif fod angen i'r arweinyddiaeth ddod gan yr awdurdod lleol a dod â'r trydydd partïon hyn ynghyd. Gwn fod swyddogion yn cael trafodaethau parhaus hefyd.