Part of the debate – Senedd Cymru am 6:50 pm ar 20 Chwefror 2019.
Symudaf yn awr at y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri o bobl yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy'n bwriadu symud ymlaen. Iawn, felly symudwn yn awr at y bleidlais heddiw, ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ariannu ysgolion. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 18, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.