Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 20 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:30, 20 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Yn sicr, rwy'n ymuno â chi i groesawu'r adroddiad a'r canfyddiadau a'r materion a godwyd ganddo heddiw. Bydd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a minnau, wrth gwrs, yn archwilio'r canfyddiadau hynny gyda chrib fân ac yn ymateb maes o law. A chredaf eich bod yn gwbl iawn i godi'r pwynt ynghylch cymorth nid yn unig i denantiaid, o ran eu hiechyd meddwl, a'r effaith a gaiff hynny ar allu rhywun i sicrhau a chynnal cartref gweddus a sefydlog, ond mewn gwirionedd, y manteision a'r cymorth i landlordiaid ac asiantaethau hefyd, sy'n eu galluogi nid yn unig i gynorthwyo tenantiaid, ond i allu diogelu sefydlogrwydd y denantiaeth hefyd.