Mynd i'r Afael â Chysgu ar y Stryd

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 20 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:24, 20 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Fel Llywodraeth, ein prif amcan yw cefnogi ymyrraeth gyda'r bwriad o gefnogi pobl i osgoi cysgu allan fel cam gweithredu cyntaf. O'r £30 miliwn ychwanegol, darperir £12 miliwn i'r awdurdodau lleol i gynyddu eu cymorth i bobl sy'n dweud eu bod yn ddigartref. Fel y dywed yr Aelod yn gwbl gywir, ceir llawer o resymau pam nad yw pobl yn teimlo ei bod yn iawn iddynt, neu'n briodol iddynt yn wir, fynd i aros mewn hostel, felly dyna pam fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol a'n partneriaid yn y trydydd sector i sicrhau y gallwn fabwysiadu ymagwedd gyfannol sy'n ystyried yr unigolyn a'r amgylchiadau unigol. Cyfeiria'r Aelod at fenter podiau Cyngor Dinas Casnewydd a ddaeth gerbron Llywodraeth Cymru cyn hynny. Er y credaf fod Llywodraeth Cymru yn deall y bwriad y tu ôl i'r podiau hyn a'r broblem y maent yn ceisio mynd i'r afael â hi, roedd pryderon ynghlwm wrth eu defnydd a pha opsiynau eraill sydd ar gael ar gyfer ariannu, gyda phob pod yn costio oddeutu £6,000. Fodd bynnag, rydym yn awyddus i weithio gyda phob un o'n partneriaid a'n rhanddeiliaid i edrych ar sut y gellir rhoi camau ar waith i fynd i'r afael â chysgu allan a digartrefedd yng Nghymru, ym mhob un o'n dinasoedd a'n trefi.