Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 20 Chwefror 2019.
O ran creu—mae'r Aelod yn codi cwestiwn diddorol iawn; fe'i codwyd o'r blaen, o ran y potensial ar gyfer un raddfa gyflogau gwasanaethau cyhoeddus ganolog. Ac yn amlwg, mae angen gwneud unrhyw beth o'r fath mewn partneriaeth a thrwy drafod gyda chynrychiolwyr undebau llafur mewn llywodraeth leol, yn ogystal â chynrychiolwyr llywodraeth leol. Mae pethau fel—yn amlwg, fe nodoch chi'r manteision, ond gallant hefyd greu heriau amlwg, os oes unrhyw ad-drefnu o'r fath, o ran cysoni graddfeydd cyflog.