Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 20 Chwefror 2019.
Rydych yn llygad eich lle eu bod yn syniadau arloesol iawn, a dyma'r math o syniadau sydd eu hangen arnom yn rhan o'n trafodaeth ynglŷn â'r ffordd y gweithiwn ar y cyd yng Nghymru i wneud gwahaniaeth i'n cymunedau a'r bobl yn ein cymunedau. Mae'r syniad o weithio gyda Rhentu Doeth Cymru i lunio modiwl ar iechyd meddwl yn bendant yn un y dylid ei ystyried, ond gan mai uwch-eilydd wyf fi heddiw, byddai'n gas gennyf roi geiriau yng ngheg y Gweinidog, ond rwy'n siŵr ei fod yn rhywbeth y byddai ganddi gryn ddiddordeb ynddo.