Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 20 Chwefror 2019.
Credaf fod yr Aelod yn nodi rhai pwyntiau pwysig iawn, o ran sut y dylem symud ymlaen, ac o ran gweithio gyda'n gweithlu diwyd mewn llywodraeth leol y dibynnwn arnynt er mwyn cael y gwasanaethau sy'n gwneud gwahaniaeth i'n bywydau bob dydd. Ac yn sicr, mae'n rhywbeth yr hoffai'r Aelod ei drafod gyda ni ymhellach y gallwn ei ystyried yn y dyfodol.