Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 20 Chwefror 2019.
Yn sicr, rwy'n cymeradwyo unrhyw ymdrechion i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a gwahaniaethu yn y sector yng Nghymru, ac yn y wlad yn gyffredinol. Rydych yn llygad eich lle wrth ddweud, fel y dywedasom ni, ei fod yn fater o fwy nag ystyried ac edrych ar yr adolygiad a'r cynigion arloesol a geir ynddo, a fydd nid yn unig yn sicrhau manteision posibl i'r tenantiaid, ac yn mynd i'r afael yn benodol ag anghydraddoldeb ac unrhyw wahaniaethu y gall tenant ei wynebu oherwydd eu problemau iechyd meddwl eu hunain, ond ei fod hefyd yn darparu sicrwydd a thenantiaethau estynedig hirdymor ar gyfer landlordiaid. Ac i ailadrodd, byddwn yn sicr yn ystyried ac yn edrych ar ganfyddiadau'r adolygiad gyda chryn ddiddordeb.