Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 20 Chwefror 2019.
Mae ailddefnyddio yn chwarae rôl bwysig yn y broses o gyflawni ein huchelgeisiau diwastraff, gyda'r potensial i arbed cannoedd o filoedd o dunelli o wastraff rhwng nawr a'n targed diwastraff yn 2050. Ym mis Tachwedd, cyhoeddais £5.4 miliwn yn ychwanegol ar draws wyth prosiect newydd i wella lefelau ailddefnyddio ac ailgylchu ledled Cymru.