Y Rheoliadau Draenio Trefol Cynaliadwy

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 20 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 2:48, 20 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Gwn beth y mae'r Gweinidog yn ei ddweud, ond mae hefyd yn dweud wrthym, fel y gwnaiff Gweinidogion eraill, fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu'r cyflenwad tai yn sylweddol a chymaint o flaenoriaeth yw hyn. Er bod ganddi gyfiawnhad teilwng, heb os, dros y rheoliadau penodol, a yw'n derbyn bod cyfaddawd i'w gael rhwng rheoliad o'r fath sy'n gwneud adeiladu tai yn fwy drud ac yn anos i bobl a allai ei wneud, a faint o dai a fydd yn cael eu cyflenwi?

A wnaiff hi hefyd ystyried y cwynion a gefais gan adeiladwyr tai ynghylch anghysondeb gwahanol gyrff cymeradwyo draenio o ran dehongli'r rheoliadau hyn a bwriad gwahanol awdurdodau cynllunio i ddarparu canllawiau ar wahân a allai fod yn groes i'w gilydd o ran sut y dylent roi sylw i'r rheoliadau hyn?