Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 20 Chwefror 2019.
Y ffordd orau o gynllunio'n effeithiol mewn ardaloedd gwledig yw sicrhau bod cynlluniau datblygu lleol ar waith sy'n amlinellu'r strategaeth gynllunio ar gyfer ardaloedd gwledig. Mae 'Polisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 10' yn cynnwys canllawiau cynllunio cryfach ar gyfer ardaloedd gwledig drwy wneud creu lleoedd effeithiol yn ofynnol er mwyn sicrhau bod datblygiadau'n hyrwyddo ffyniant, iechyd a llesiant.