Honda

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 20 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 3:15, 20 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n gwrando ar fusnesau, sy'n dweud wrthym y gallent, erbyn diwedd y mis hwn, yn hawdd fod yn wynebu treth o £400 ar bob injan, ar ben rhwystrau di-dariffau, os na chawn gytundeb da, a bydd hynny'n tarfu ar yr holl fodel busnes 'mewn pryd' y mae'r diwydiant ceir yn dibynnu arno. Felly, mae meinciau'r Ceidwadwyr yn byw ym myd ffantasi os ydynt yn credu nad yw'r ansicrwydd ynghylch Brexit yn ffactor ym mhob penderfyniad y mae pob cwmni rhyngwladol yn ei wneud ar hyn o bryd.