Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 20 Chwefror 2019.
Diolch. Credaf eich bod yn gorliwio'r sefyllfa braidd drwy geisio cysylltu'r ddau fater hynny. Mae gennym gronfa o £2 filiwn yr ydym wedi cytuno arni ar y cyd â Phlaid Cymru ar gyfer cyflwyno mannau gwefru ar gyfer cerbydau trydan. O ran y pwynt nad oedd Brexit yn ffactor wrth benderfynu, credaf unwaith eto fod yr Aelod yn ymestyn y gwir braidd. Y bore yma—