Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 20 Chwefror 2019.
Mae'n werth cofio bod Neil Hamilton wedi gwneud dadleuon tebyg iawn wrth ddadlau yn erbyn camau i gael gwared ar betrol sy'n cynnwys plwm. Mae wedi bod yn gyson anghywir ar ddiogelu defnyddwyr ac amddiffyn pobl sy'n agored i niwed rhag cerbydau sy'n llygru, ac mae'n ceisio rhoi'r bai ar bopeth ar wahân i'r polisi byrbwyll y mae wedi'i gefnogi i ddinistrio swyddi yn sgil celwyddau ynglŷn ag effaith gadael yr UE.