Part of the debate – Senedd Cymru am 5:21 pm ar 20 Chwefror 2019.
Mae'n bwynt da iawn, ac mae'r gwahaniaeth yn yr arbenigedd i alluogi'r ceisiadau hyn i gael eu cyflwyno yn amlwg iawn. Buom yn ffodus ym Mhen-y-bont ar Ogwr, roedd gennym feiciwr gweithgar iawn a oedd yn digwydd bod yn swyddog monitro teithio llesol hefyd—Matt, mae wedi symud ymlaen yn awr i Lywodraeth Cymru, pob lwc iddo, bydd yn gwneud pethau da yno—ond ef a'i gyrrai, gydag ymrwymiad yr awdurdod lleol ac eraill. Mewn ardaloedd eraill, nid yw hynny wedi bod yn digwydd. Gwahaniaethau enfawr. Felly, mae'n bwynt da iawn.
Ond gan ychwanegu ffrydiau ariannu eraill at y £60 miliwn hwnnw, megis llwybrau a chymunedau diogel, bydd y cyfanswm gwariant yng Nghymru yn £30,666,667 y flwyddyn yn union. Mae hyn yn gyfystyr â £10 i bob pen o'r boblogaeth. Nawr, cafodd y cyhoeddiad yn tynnu hyn i gyd at ei gilydd ei groesawu'n eang, rhaid imi ddweud. Fodd bynnag, mae'n gadael Cymru ymhell y tu ôl i ardaloedd eraill sydd wedi ymrwymo i gynyddu teithio llesol. Mae gan yr Alban ymrwymiad yn ei rhaglen lywodraethu—'A Nation with Ambition' yw ei henw—i ddyblu'r buddsoddiad mewn cerdded a beicio i £80 miliwn y flwyddyn. Mae hyn yn gyfystyr â £17 y pen. Mae Manceinion fwyaf wedi amlinellu cynllun 10 mlynedd uchelgeisiol sy'n golygu gwario £150 miliwn y flwyddyn ar seilwaith cerdded a beicio. Mae hyn yn gyfystyr â £54 y pen o'r boblogaeth o fewn Manceinion fwyaf. Ac rydym yn gwybod bod adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau 'Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 - Craffu ar ôl Deddfu' yn argymell y dylid gosod ariannu cyfalaf ac adnoddau ar y cyd yng Nghymru ar £17 i £20 y pen y flwyddyn. Felly, gallwn weld pa mor fyr o'r nod yr ydym.
Ond un o'r prif gwynion am weithrediad y Ddeddf yn ystod y tair blynedd y mae proses fapio'r Ddeddf wedi'i gymryd yw nad oes fawr o seilwaith wedi'i adeiladu mewn gwirionedd. Felly, mae gan Gymru lawer o ffordd i fynd. Ac eto, ceir tystiolaeth sylweddol fod buddsoddi mewn teithio llesol yn darparu enillion mawr mewn buddion cyhoeddus. Gwelodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal fod llwybrau beicio oddi ar y ffordd, llwybrau beicio diogel, yn sicrhau gwerth da iawn am arian, gyda phob £1 a fuddsoddir yn dod â £14 yn ôl mewn buddion. Mae buddsoddiad mewn seilwaith cerdded yn dod â £37 yn ôl am bob £1 a fuddsoddir. Mae Manceinion fwyaf yn amcangyfrif y bydd eu rhaglen 10 mlynedd o fuddsoddiad gwerth £1.5 biliwn yn sicrhau o leiaf £8.3 biliwn o enillion mewn budd cyhoeddus. A dyna pam fod arnom angen strategaeth.
Mae'n rhaid i weithrediad effeithiol y Ddeddf teithio llesol fod yn drawslywodraethol a chynnwys amrywiaeth enfawr o wasanaethau cyhoeddus eraill, gan gynnwys addysg yn arbennig. O ystyried pwysigrwydd cael plant i gerdded a beicio i'r ysgol wrth basio'r Ddeddf, mae'n rhyfeddol nad yw teithio llesol wedi bod yn ystyriaeth yn rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain y Llywodraeth ei hun. Mae rhai ysgolion wedi ei wneud, ond maent wedi'i wneud ar eu liwt eu hunain, nid oherwydd ei fod wedi'i gynnwys yn rhan o'r rhaglen honno. Rhaid i gynllunwyr, peirianwyr ffyrdd, darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus, gweithwyr iechyd, a chymaint o bobl eraill ar draws Cymru ddeall ein dull a'n penderfyniad i wneud i hyn ddigwydd. Mae arnom angen datganiad clir ynglŷn â phwy sy'n gwneud beth a pha bryd y byddant yn gwneud hynny. Ac mae Trafnidiaeth Cymru yn mynd i chwarae rôl allweddol yn cyflawni teithio llesol, ond ar hyn o bryd, nid oes neb yn gwbl glir ynglŷn â beth yw'r rôl honno, neu sut y caiff ei chyflawni.
Mae gwneud Cymru yn genedl teithio llesol yn brosiect hirdymor, ond mae angen y strategaeth hirdymor honno na fydd yn dod i ben pan fydd Gweinidog yn dod neu'n mynd. Hefyd, mae angen inni fod yn glir iawn ynglŷn â sut y bydd buddsoddiad yn cael ei flaenoriaethu. Mae adeiladu rhwydweithiau yn hirdymor; mae angen dull strategol o weithredu. Mae penderfyniadau cyllido blynyddol yn arwain at ddarnau byr, ynysig o seilwaith sy'n dod i ben, nid ydynt yn llwyddo i gyrraedd unrhyw le yn iawn, nid ydynt yn caniatáu i bobl wneud teithiau cyflawn. Felly, mae'n siomedig nad yw'r ymrwymiad yn y cynllun gweithredu teithio llesol i ddatblygu'r strategaeth ariannu honno wedi cael ei ddatblygu. Mae angen inni gael pobl i gefnogi go iawn, i fwrw ymlaen drwy'r strategaeth, ac mae angen iddo gael ei gydgynhyrchu. Ac yn yr ysbryd hwnnw o gydgynhyrchu, rwy'n datgan buddiant fel is-lywydd y Cerddwyr. Yn ogystal, rhaid imi godi materion yn ymwneud â diffyg integreiddio seilwaith hawl tramwy gyda'r rhwydwaith teithio llesol drwy'r mapiau rhwydwaith integredig, a diffyg arian ar gyfer gwella hawliau tramwy. Ond fe ysgrifennaf at y Gweinidog ynglŷn â'r materion hynny ar wahân.
Felly, i gloi, gadewch imi ddweud bod gennyf hyder llwyr yn y Gweinidog newydd, sydd ei hun wedi bod ymhlith cefnogwyr mwyaf blaenllaw teithio llesol. Os gall unrhyw un wneud iddo ddigwydd, gall ef wneud hynny, gyda chymorth awdurdodau lleol a phartneriaid anstatudol, gyda hwb achlysurol gan y grŵp trawsbleidiol ar deithio llesol, ac rwy'n falch o gymryd yr awenau ganddo, a chydag anogaeth gan yr Aelodau yma heddiw. Os yw Deddf teithio llesol a Deddf cenedlaethau'r dyfodol wedi rhoi fframwaith inni gyflawni uchelgais mawr, gan wneud Cymru'n wlad lle daw cerdded a beicio yn ffordd fwyaf naturiol ac arferol o fynd o gwmpas, ein dyfalbarhad ni fydd yn gwireddu'r uchelgais, ac mae cyfle euraid gan y Gweinidog i gyflawni hynny. Gall gerdded y llwybr, a beicio'i ffordd i lwyddiant hefyd. Bydd pob un ohonom yn enillydd, a Chymru fydd yr enillydd mwyaf oll.