Part of the debate – Senedd Cymru am 5:51 pm ar 20 Chwefror 2019.
Mae angen eglurder yn Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru ynglŷn â phwy sy'n gyrru'r agenda hon, ac o ran y capasiti adnoddau mewn awdurdodau lleol, lle nad oes gan rai awdurdodau lleol yr arbenigedd y dywedodd Huw Irranca ei fod gan Ben-y-bont ar Ogwr. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i sicrhau y caiff pob awdurdod lleol yng Nghymru ei gynorthwyo i allu cyflawni'r Ddeddf hon yn llawn ac yn briodol?