Part of the debate – Senedd Cymru am 5:48 pm ar 20 Chwefror 2019.
Yn bendant, a phan ddywedodd Carwyn Jones, y cyn Brif Weinidog, na fyddai'n breuddwydio beicio yng Nghaerdydd, cafodd ei feirniadu'n hallt, a chredaf ei fod yn iawn i ddweud hynny. Mae'n bwysig i bobl deimlo'n gyfforddus i ddweud nad ydynt yn teimlo'n hapus i feicio neu gerdded dan amodau presennol. Yr ateb i ddiogelwch yw cael digon o bobl i wneud hyn fel eich bod yn teimlo'n ddiogel, ac mae diogelwch mewn niferoedd. Dyna'r ffordd go iawn o fynd i'r afael â diogelwch, fel nad yw'n dasg ynysig.
Rwyf am geisio ymdrin â'r prif bwynt yn y cynnig ynghylch uchelgais a'r alwad am strategaeth. Nid oes ots gennyf beth rydym yn ei alw mewn gwirionedd, pa un a yw'n strategaeth neu'n gynllun gweithredu, ond credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn mynd i'r afael â hynny ac yn fwy uchelgeisiol o ran yr hyn y dywedwn ein bod yn mynd i'w wneud a beth rydym yn ceisio ei wneud. Nid yw'r cynllun presennol yn cynnwys targedau, ond mynegai uchelgais i gynyddu canran y bobl sy'n beicio ar gyfer teithio llesol o leiaf unwaith yr wythnos o 5 y cant i 10 y cant, a cherdded unwaith yr wythnos o 64 y cant i 80 y cant erbyn 2026. Ond nid yw'r rhain yn uchelgeisiol. Hyd yn oed pe baech yn cyrraedd 10 y cant o bobl yn beicio unwaith yr wythnos, byddai hynny'n cyfrif rhywun sy'n barod i fynd i'r siop bapur newydd ar fore Sadwrn unwaith yr wythnos fel rhywun sy'n cyrraedd y targed, ac nid yw hynny'n arwain at y geiriau y clywsom Huw Irranca-Davies yn eu dyfynnu o'r Ddeddf, a ddywedai y byddai cerdded a beicio'n dod yn ffordd naturiol ac arferol o fynd o gwmpas yng Nghymru. Felly, nid yw hynny'n ddigon da. Ond hyd yn oed i gyflawni hynny, byddai angen dyblu'r lefelau presennol. Mae hynny'n dangos y bwlch yr ydym am ei lenwi.
Mae'r cynllun gweithredu presennol yn cynnwys ymrwymiad i ddatblygu hyn ymhellach ac yn pennu targedau sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Nawr, dair blynedd yn ddiweddarach, credaf ei bod yn bryd inni wneud hynny. Y flwyddyn nesaf, bydd gennym strategaeth trafnidiaeth Cymru wedi'i chyhoeddi, ac mae'n hanfodol fod teithio llesol yn cael ei brif ffrydio yn rhan o hynny, ac nid ei osod mewn agenda wahanol. Felly, fy nghynnig yw nad oes gennym strategaeth teithio llesol benodol ar hyn o bryd—strategaeth trafnidiaeth Cymru yw'r strategaeth—ond bod gennym gynllun gweithredu a chynllun cyflawni teithio llesol newydd, a'i fod yn uchelgeisiol. Mae angen i'r targedau a luniwn fod yn gyflawnadwy am fod targedau na ellir eu cyflawni yn wrthgynhyrchiol. Mae angen inni wneud hynny. Mae angen inni eu datblygu ar y cyd—eu cydgynhyrchu gyda'r gweithlu nad yw'n cael ei werthfawrogi'n ddigonol sy'n darparu teithio llesol ar hyn o bryd. Mae gennym fand bach o bobl mewn llywodraeth leol sy'n gwneud eu gorau, mewn amgylchiadau anodd, i gyflawni'r agenda hon. Mae angen inni eu cynnwys a rhoi rhan iddynt yn y gwaith o ddatblygu ffordd ymlaen.