8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ariannu Ysgolion

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:11 pm ar 20 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 6:11, 20 Chwefror 2019

Diolch, Dirprwy Lywydd, a dwi'n falch o gael y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma.

Rŷn ni wedi clywed gan weithwyr proffesiynol yn y byd addysg yn ddiweddar eu bod yn credu bod y lefelau isel o ariannu ysgolion yng Nghymru yn rhwystro eu gallu i gyflwyno gwersi i'r safonau y maen nhw eu hangen. Mae yna ddiffyg adnoddau, ac, yn gynyddol, mae diffyg cyflenwad staffio llawn yn tanseilio gallu'r ysgolion yng Nghymru i sicrhau'r safonau addysg gorau posib. Nid fy ngeiriau i yw'r rhain, ond geiriau NUT Cymru, ac mae’r dystiolaeth yn dangos bod y model cyllido bresennol yn cael effaith wirioneddol ar safonau addysgol ledled Cymru, yn enwedig yn fy etholaeth i.

Yn anffodus, yn gynharach eleni, dangosodd ffigurau categori ysgolion Llywodraeth Cymru fod gan sir Benfro'r canran uchaf o ysgolion cynradd sydd angen y gefnogaeth fwyaf. Yn ôl y ffigurau hynny, cafodd 10.7 y cant o ysgolion cynradd yr awdurdod eu categoreiddio fel coch, o'i gymharu â dim ond 3.6 y cant yn y flwyddyn flaenorol. Mae hynny'n naid syfrdanol mewn dim ond 12 mis, ac, erbyn hyn, fel dywedodd Suzy Davies, mae mwy nag un o bob 10 ysgol gynradd yn sir Benfro yn y categori cymorth coch, sydd angen cymorth ychwanegol.

Nawr tra fy mod i'n derbyn nid y model cyllido yw’r unig reswm pam mae sir Benfro yn wynebu her mewn safonau ysgol, mae'n sicr yn glir dyw’r asesiadau sydd yn seiliedig ar ddangosyddion gwasanaethau'r ysgol ddim yn cwrdd ag anghenion ysgolion yn fy etholaeth i. Mae'n amlwg bod lefel anghyson mewn cyllid ar draws gwahanol rannau o Gymru a bod yr anghysondeb yma yn rhwystro safonau.

Codwyd yr anghysondeb hwnnw y llynedd gan Michael Davies, pennaeth Ysgol y Preseli yng Nghrymych, a ddywedodd fod ei ysgol yn edrych ar doriadau dyfnach nag erioed o'r blaen, gan gynnwys cyrsiau TGAU a phartneriaethau â cholegau lleol. Rhybuddiodd, a dwi’n dyfynnu:

Rydym wedi torri popeth i lawr i'r asgwrn—ac, yn anffodus, mae'n rhaid inni edrych ar dorri'r adnodd pwysicaf oll, sef y staff addysgu a'r staff cynorthwyol.

Felly, efallai, wrth ymateb i’r ddadl hon y prynhawn yma, gall y Gweinidog ddweud wrthym ni sut mae Llywodraeth Cymru wedi mynd i'r afael yn benodol â phryderon penaethiaid yn sir Benfro dros y flwyddyn ddiwethaf, a hefyd dweud wrthym ni pa gamau pellach y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i'r afael â hyn.

Nawr, mewn ymateb i ystadegau dosbarthu ysgolion, mae'r Gweinidog wedi nodi bod y system wedi dod yn fwy soffistigedig dros amser. Yn wir, efallai mai dyma beth sydd wedi digwydd, ond, i lawer yng Nghymru, gwelir bod y system yn rhy fiwrocrataidd, ac, fel y mae'r ystadegau eu hunain yn dangos, mewn rhai rhannau o Gymru nid yw'r consortia rhanbarthol yn darparu ar gyfer disgyblion mewn rhai meysydd.

Dengys ffigurau gan Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru fod consortiwm gwella ysgolion yn cadw £40 miliwn, sydd felly ddim wedi cyrraedd ein hysgolion, ar adeg pan fo ysgolion yn cael eu tan-ariannu. Mae hyn, yn syml, yn annerbyniol. Dyw e ddim yn iawn fod cyllid hanfodol yn cael ei gadw pan fo ysgolion ledled Cymru yn gorfod ymdopi â chyllidebau llai. Yn wir, mae Cymdeithas Genedlaethol Penaethiaid Cymru wedi holi a yw'r consortia rhanbarthol yn rhoi gwerth am arian, gan ddweud, a dwi'n dyfynnu, 'Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ysgolion wedi torri'n sylweddol, yn enwedig o ran lefelau llai o gyllideb ddirprwyedig, o ganlyniad i lywodraethu trydedd haen ormodol yng Nghymru.'

Felly, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru nawr yn asesu effeithiolrwydd y consortia rhanbarthol a gweld a ydynt yn wirioneddol yn cyflawni'r canlyniadau y mae angen inni eu gweld mewn ysgolion ledled Cymru. Y cwestiwn yw: a yw'r consortia hyn yn ychwanegu gwerth at ein system addysg, neu a ydyn nhw yn syml yn wastraff adnoddau ac yn creu lefel ychwanegol o fiwrocratiaeth?

Dirprwy Lywydd, wrth wraidd y ddadl hon yw’r awydd i weld ysgolion yng Nghymru'n ffynnu ac rŷn ni ar yr ochr hon o'r Siambr yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru werthuso ei fformiwlâu ariannu fel y gellir deall yn well ddeilliannau dysgwyr a gwerth am arian. Mae’r sefyllfa bresennol yn ei gwneud hi’n anodd iawn i ganfod pa mor effeithiol yw cyllid ysgolion yng Nghymru. Heb ddeall effeithiolrwydd y gwariant, ychydig iawn o liferau sydd ar ôl gan Lywodraeth Cymru er mwyn cyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen ar y system addysg. Wrth gwrs, mae gyda ni ein syniadau ein hunain fel mae gwella’r system, megis ariannu ysgolion yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, a byddai hyn yn sicr yn arwain at fwy o arian yn cyrraedd ein hystafelloedd dosbarth.

Yn naturiol, mae heriau eraill hefyd, nid yn bennaf oll daearyddiaeth Cymru. Mae cost darparu gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig yn ddrud o'i chymharu ag addysgu disgyblion mewn ysgolion mwy. Rŷn ni'n gwybod bod awdurdodau gwledig wedi cyfeirio at gostau cludiant ysgol fel rhywbeth sy’n anodd ei reoli, ac nid yw'r gost honno'n bodoli yn ein hardaloedd trefol. Felly, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod ei modelau cyllido wedi pasio’r prawf gwledig i sicrhau bod awdurdodau gwledig ddim o dan anfantais wrth dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.

Felly, wrth gloi, Dirprwy Lywydd, mae ein cynnig ni yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar ei modelau cyllido a sefydlu ffordd well o fonitro effeithiolrwydd ei gwariant fel bod y cyhoedd yn gallu deall sut mae ysgolion unigol yn cael eu hariannu ac felly rŷn ni'n gallu cyflawni'r canlyniadau gorau posib i ddysgwyr yng Nghymru. Felly, dwi'n annog Aelodau i gefnogi'r cynnig.