Part of QNR – Senedd Cymru ar 20 Chwefror 2019.
Cafodd y cynllun hwn ei sefydlu fel rhan o’n setliad cyllideb gyda Plaid Cymru. Rwy’n falch iawn fod 110 o’r rhai a gyflwynodd gais i’r cynllun ymsefydlu pobl ifanc mewn amaeth wedi cael cynnig contractau a fydd yn rhoi £40,000 yr un iddynt ar gyfer datblygu eu busnes. Mae 40 o geisiadau eraill wrthi’n cael eu datblygu ac mae disgwyl iddynt gael eu cymeradwyo y mis hwn.