Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 5 Mawrth 2019.
Dychwelaf at rai o'r ffigurau sydd gen i o'm blaen. Ym mis Ionawr 2019, adroddodd 14 o 24 cyfleuster gofal brys welliant o fis Ionawr 2018, neu'r un lefel o berfformiad. Mae hynny'n cynnwys saith o'n 13 o brif adrannau achosion brys. Nododd pedwar o'r saith bwrdd iechyd well perfformiad ym mis Ionawr 2019 o'i gymharu â mis Ionawr 2018. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni dderbyn bod y rhan fwyaf o bobl sy'n defnyddio adrannau damweiniau ac achosion brys yn cael eu gweld o fewn yr amser, yn cael y driniaeth orau. Mae rhai nad ydynt, a nhw yw'r bobl y mae angen i ni barhau i'w cefnogi.