Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 5 Mawrth 2019.
Llywydd, mae hi'n amlwg bod Prif Weinidog y DU wedi colli ymddiriedaeth y Senedd. Mae hi wedi bod yn gwyro o un ochr y ffordd i'r llall, yn ceisio plesio yn gyntaf y Brexitwyr yna'r arhoswyr yn ei rhengoedd ei hun yn hytrach na gosod cwrs cyson. Mae'r ffordd y mae hi yn ein gyrru ni ar ei hyd yn dal i arwain at ymyl dibyn.
Yn gyntaf fe gawsom ni'r oedi gyda'r bleidlais ystyrlon ym mis Rhagfyr, yna cytundeb y Prif Weinidog yn cael ei drechu mewn modd na welwyd ei debyg erioed o'r blaen. Yna, yn hytrach nag estyn allan mewn gwirionedd ar sail drawsbleidiol, mae'r Prif Weinidog yn ceisio tawelu'r eithafwyr yn ei rhengoedd ei hun, a mynd ar drywydd strategaeth o ganiatáu i amser ddirwyn i ben. Ac yn fwy enbyd na dim, cytunodd i welliant Brady, sydd mewn gwirionedd yn torri'r cytundeb yr oedd hi wedi dod iddo gyda'n 27 partner yn yr UE—cytundeb yr oedd hi wedi dweud dro ar ôl tro ac mewn pob difrif calon wrth Dŷ'r Cyffredin oedd y gorau a oedd ar gael. Pan yr oedd Prif Weinidog Cymru ym Mrwsel yr wythnos diwethaf roedd yn gwbl grediniol fod y tro pedol llwyr yma wedi tanseilio nid yn unig hygrededd personol Prif Weinidog y DU, ond ewyllys da tuag at y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd. Yna, yr wythnos diwethaf, yn wyneb gwrthryfel gan rai o aelodau mwy rhesymol ei chabinet, taflodd lwch unwaith eto i lygaid ei ASau, gan addo pleidlais gyfrwymol ar estyniad i Erthygl 50 ar yr unfed awr ar ddeg dim ond petai ei chytundeb yn cael ei wrthod unwaith eto, a phetai'r Senedd yn ailadrodd ei barn sy'n berffaith glir fod ymadael heb gytundeb yn annerbyniol.
Llywydd, onid yw hi'n dweud cyfrolau, er i Brif Weinidog y DU roi ei gair ar y gyfres hon o bleidleisiau, bod Aelodau Seneddol yn dal yn teimlo rheidrwydd i bleidleisio ar welliant sy'n dweud yr un peth yn union er mwyn pwyso ar y Prif Weinidog i anrhydeddu ei haddewid? Ac onid yw hi'n fwy arwyddocaol, er gwaethaf y Llywodraeth a meinciau blaen y gwrthbleidiau yn cefnogi'r gwelliant hwn, y pleidleisiodd 20 o Frecsitwyr Ceidwadol yn ei erbyn, ac i fwy nag 80 o Aelodau Seneddol Ceidwadol a phawb ond un o Aelodau'r DUP ymatal. Pe byddai angen mwy o dystiolaeth fod yr eithafwyr hyn yn barod i dynnu'r carped o dan y Prif Weinidog ar adeg o'u dewis eu hunain, dyna'r dystiolaeth.
Ac eto mae'r Llywodraeth yn dal i ddiystyru ymadael heb gytundeb. Gallai Prif Weinidog y DU roi'r ymrwymiad hwnnw ac mae hi wedi gwrthod. Sut all y Prif Weinidog gyfiawnhau'r datganiad y bydd y Llywodraeth yn y pen draw yn gwneud llwyddiant o ymadael heb gytundeb? Hyn ar yr un diwrnod ag yr oedd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi ei hasesiad o beth fyddai ymadael heb gytundeb yn ei olygu—dadansoddiad sy'n ei gwneud hi'n gwbl glir nad yw Llywodraeth y DU yn agos o gwbl i fod yn barod ar gyfer canlyniad o'r fath. Yn ôl eu hasesiad eu hunain, dim ond dwy ran o dair o brosiectau mwyaf allweddol Llywodraeth y DU o ran ymadael heb gytundeb sydd ar y trywydd iawn. Mae llai na chwarter y busnesau hynny sydd ar hyn o bryd yn allforio i'r UE wedi gwneud cais am y ddogfennaeth fydd ei hangen arnyn nhw i barhau i wneud hynny mewn sefyllfa o ymadael heb gytundeb. O ran masnach, mae sicrwydd yr Ysgrifennydd masnach y byddai holl gytundebau masnach presennol yr UE ar waith erbyn 29 Mawrth yn deilchion. Ni fydd cytundebau ar waith ar gyfer rhai o'r prif wledydd masnachu y tu allan i'r UE, gan gynnwys Japan a Thwrci. Rydym ni'n dal i aros, gyda thair wythnos ar ôl, i'r Llywodraeth gyhoeddi ei chynigion ar gyfer tariffau'r DU mewn achos o ymadael heb gytundeb. Heb gefnogaeth seneddol ar gyfer y rhain, nid yn unig bydd cwmnïau yn y DU yn wynebu rhwystrau tariff a di-dariff newydd mor uchel ag 87 y cant ar allforion cig eidion wedi'u rhewi, o leiaf 45 y cant ar allforion cig oen, a 10 y cant ar gerbydau gorffenedig yn y diwydiant ceir, gallent hefyd fod ar eu colled oherwydd cystadleuaeth mewnforion di-dariff o bob math o nwyddau o bob rhan o'r byd.
Nid yw'n syndod bod holl sefydliadau busnes y DU wedi galw ar y Llywodraeth i ddiystyru ymadael heb gytundeb. I ddyfynnu Adam Marshall o Siambrau Masnach Prydain, Mae'n bryd, dywedodd, bod yn onest. Nid yw'r Llywodraeth a'i hasiantaethau yn barod i ymadael heb gytundeb ar 29 Mawrth. Nid yw llawer o fusnesau chwaith.
Aiff yn ei flaen:
Y brif flaenoriaeth o bell ffordd yw sicrhau busnesau, gweithwyr, buddsoddwyr a chymunedau na chaiff y sefyllfa nad oes mo'i heisiau o ymadael heb gytundeb ddigwydd yn ddiofyn ar 29 Mawrth.
Ond mae'r cynnig ger ein bron heddiw yn gwneud mwy na dim ond galw am ddiystyru ymadael heb gytundeb. Mae'n mynnu bod yn rhaid diystyru ymadael heb gytundeb fel strategaeth dderbyniol ar unrhyw adeg. Oherwydd nid yw difrod ymadael heb gytundeb dim ond ynglŷn â'r risg o anhrefn tymor byr yn ein porthladdoedd, amharu ar gyflenwadau bwyd a meddyginiaethau a chadwyni cyflenwi i'r funud, nid yw dim ond ynglŷn â phroblemau gofal iechyd dramor ar gyfer pobl sy'n mynd ar eu gwyliau, colli pasbortau anifeiliaid anwes neu sicrwydd yswiriant awtomatig i yrwyr yn yr UE, nid yn unig am ysgytiadau economaidd tymor byr, er mor sylweddol y bydd y rhai hynny; mae'r bygythiad o ymadael heb gytundeb yn un o ddifrod strwythurol hirdymor i'n heconomi. Mae pob dadansoddiad economaidd credadwy yn dangos y bydd difrod economaidd hirdymor sylweddol yn sgil Brexit heb gytundeb, gyda'r economi tua 10 y cant yn llai nag y byddai fel arall. Mae graddfa'r effaith hon yn debyg i'r math o ganlyniadau a welsom ni yn dilyn yr argyfwng ariannol, ond y tro hwn, yn anhygoel, bydd yn ganlyniad dewis ymwybodol gan Lywodraeth y DU.
Ac nid yw economi llai ynglŷn ag ystadegau a modelau a graffiau, mae'n ymwneud â swyddi a bywoliaethau. Bydd incwm pobl hefyd yn is nag y byddai wedi bod—tua £2,000 y pen yng Nghymru. Bydd llai o refeniw treth i ariannu gwasanaethau cyhoeddus, a fydd yn gwaethygu effeithiau'r degawd coll ers y dirwasgiad. Ac, os cawn ni ein gyrru dros ddibyn Brexit, mae perygl inni danseilio ein heconomi yn hirdymor a chwalu'r diwydiant ar raddfa na welwyd ers y dad-ddiwydiannu y gwyddom ni y distrywiodd cymunedau ledled Cymru yn y 1980au.
Ac ni ellir osgoi hyn gyda thactegau ac ystrywiau Seneddol, fel mae Prif Weinidog y DU yn gobeithio. Mae angen arweinyddiaeth. Mae angen newid mewn strategaeth. Nid yw hi'n fawr o gysur osgoi ymadael heb gytundeb mewn tair wythnos ond i orfod wynebu hynny eto mewn tri mis. Ac er na fydd ar unrhyw un yn yr UE eisiau canlyniad o ymadael heb gytundeb, bydd sefyllfa o'r fath yn llai niweidiol i 27 gwlad yr UE ar ôl yr etholiadau Ewropeaidd nag y byddai cyn y rheini. Felly, rydym ni'n galw ar y Llywodraeth i ddiystyru ymadael heb gytundeb yn llwyr. Ac mae hyn yn fater o frys. Eisoes mae effeithiau rhagweld ymadael heb gytundeb i'w teimlo, gyda buddsoddwyr yn ymadael â'r DU neu'n terfynu cynlluniau buddsoddi, a bydd yr effeithiau yn gwaethygu bob dydd y caniateir i'r ansicrwydd hwn barhau. Drwy fethu â diystyru ymadael heb gytundeb, mae Llywodraeth y DU yn gweithredu'n fyrbwyll â bywoliaeth aelwydydd ym mhob cwr o'r DU.
Nid yw estyniad i erthygl 50, ar ei ben ei hun, yn ddigonol, ond mae'n angenrheidiol i sicrhau nad oes gennym ni Brexit heb gytundeb drwy ddamwain ymhen tair wythnos, a'r amser i atal hynny yw nawr. Mae 27 gwlad yr UE yn glir, er y byddent yn cefnogi estyniad, rhaid i Lywodraeth y DU roi rheswm clir ar ei gyfer. Ni fydd amser ychwanegol er mwyn gwamalu ac amwysedd yn perswadio ein partneriaid ac ni fydd yn llesol i'r DU. Yr hyn y mae'n rhaid i'r Prif Weinidog ei wneud yw rhoi awgrym clir o'i bwriad i weithredu'n bendant, naill ai i ailysgrifennu'r datganiad gwleidyddol a gwneud ymrwymiad statudol i'r berthynas economaidd agosaf bosib â'r UE sy'n gydnaws â pheidio â bod bellach yn aelod-wladwriaeth—sefyllfa y credwn y gall hawlio mwyafrif sefydlog yn Nhŷ'r Cyffredin a chefnogaeth 27 gwlad yr UE—neu, yn absenoldeb hynny, i gynnal pleidlais gyhoeddus ar y ffordd ymlaen.
Ni fyddwn yn cefnogi gwelliant UKIP ac, am wahanol resymau, ni fyddwn yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru. Nid yw cefnogi'r cynnig hwn mewn unrhyw fodd yn tanseilio ein safbwynt fel plaid nac fel Llywodraeth Cymru o ran cael refferendwm. Rydym ni wedi dweud ar goedd fel plaid a Llywodraeth ein bod yn cefnogi refferendwm fel ffordd o ddatrys hyn. Mae'r cynnig hwn, fodd bynnag, wedi'i ddrafftio mewn ffordd sy'n ein galluogi i anfon neges syml ac unedig rhwng Cymru a'r Alban nad ydym ni eisiau Brexit heb gytundeb a bod yn rhaid dileu'r bygythiad yn awr.