Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 5 Mawrth 2019.
Ond gadewch inni fynd yn ôl i'r adeg cyn y refferendwm yn 2016 ac edrych ar y ddogfen a anfonodd y Llywodraeth, ar ein cost ein hunain, i bob un cartref yn y wlad, y ddogfen hon a ddarluniodd pob math o erchyllterau ynglŷn â gadael yr UE, a gynlluniwyd i geisio dychryn pobl i bleidleisio yn y refferendwm i aros. Ar un dudalen, o dan y pennawd, 'penderfyniad unwaith mewn cenhedlaeth'—mae cenhedlaeth yn 25 mlynedd—refferendwm unwaith mewn cenhedlaeth, dywedodd hyn:
Mae'r Llywodraeth yn credu mai'r peth gorau i'r DU yw aros yn yr UE.
Ac yna mae'n dweud,
Eich penderfyniad chi yw hwn. Bydd y Llywodraeth yn gweithredu'r hyn y byddwch chi yn ei benderfynu.
Fe wnaeth y bobl benderfynu: fe wnaethon nhw bleidleisio i adael yr UE, a dyna ddiwedd arni. Nid oedd unrhyw amwysedd yn y cwestiwn. Roedd hi'n berffaith amlwg: roeddem ni naill ai i aros neu i adael, ac fe bleidleisiodd y bobl i adael. Nid wyf yn credu bod Theresa May mewn gwirionedd erioed wedi derbyn y penderfyniad hwnnw, ddim mwy nag y mae Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn, ddim mwy nag y mae Llywodraeth yr Alban yn ei dderbyn, ddim mwy, mewn gwirionedd, nag y mae 500 o Aelodau Seneddol yn Nhŷ'r Cyffredin sydd eisiau aros—neu y rhan fwyaf ohonyn nhw, ar unrhyw gyfrif—wedi derbyn y canlyniad hwnnw. A'r hyn yr ydym ni wedi'i weld yn y ddwy flynedd a hanner diwethaf yw twyll bwriadol wedi ei gynllunio nid yn unig i danseilio canlyniad y refferendwm, ond mewn gwirionedd i'w rwystro'n gyfan gwbl.
Yn etholiad cyffredinol 2017, dywedodd maniffesto'r Blaid Geidwadol:
o dan arweinyddiaeth gref a sefydlog Theresa May, gallwn negodi'r cytundeb gorau posibl ar gyfer ein gwlad... Byddwn yn sicrhau bod gennym ni sicrwydd ac eglurder o ran ein dyfodol, rheolaeth o'n cyfreithiau ein hunain, a Theyrnas Unedig fwy unedig, cryfach...ni fyddwn ni bellach yn aelodau o'r farchnad sengl nac undeb tollau...Rydym ni eisiau negodiadau teg, trefnus, fydd yn tarfu cyn lleied â phosibl ac yn rhoi cymaint o sicrwydd â phosibl, a, rydym ni'n parhau i gredu bod dim cytundeb yn well na chytundeb gwael ar gyfer y DU.
Eto mae gennym ni bellach gytundeb honedig gan Theresa May sydd, yn rhyfeddol, yn penderfynu cadw'r rhan fwyaf o gostau aelodaeth o'r UE gan wfftio'r rhan fwyaf o'r manteision. Mae hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i Brydain ildio rhan o'i thiriogaeth, mewn gwirionedd, i awdurdodaeth tramor, Gogledd Iwerddon, ac mae'n caniatáu i Frwsel reoli ein masnach â gwladwriaethau nad ydyn nhw'n aelodau o'r UE hyd yn oed ar ôl inni, yn dechnegol, adael yr Undeb Ewropeaidd. Ni fydd gennym ni unrhyw bleidlais; unrhyw feto; dim grym unochrog i adael os derbynnir y cytundeb hwn. Mae'n sarhad ar rai sy'n credu mewn sofraniaeth seneddol; Mae'n sarhad ar rai sy'n credu yn undeb y Deyrnas Unedig; ac yn sicr mae'n sarhad ar unrhyw un sy'n credu yn egwyddor masnach rydd.
Ac, wrth gwrs, gwraidd hyn i gyd yw agwedd negodwyr yr UE eu hunain i'r negodiadau hyn—Michel Barnier, a ddywedodd yn 2016,
Byddaf wedi gwneud fy ngwaith os, yn y pen draw, bydd y telerau ymadael mor ddrwg fel y byddai'n well gan bobl Prydain aros yn yr UE.
Felly, yr hyn a welsom ni yw ymosodiad deublyg dros y ddwy flynedd diwethaf gan negodwyr yr UE ar y naill law a negodwyr Prydain ar y llall. Mae'r prif negodwr, wrth gwrs, yn was sifil yn y ddau achos: nid oes unrhyw wleidydd yn gyfrifol am y broses hon oherwydd bod Theresa May wedi cytuno na fydd hynny'n digwydd. Yr hyn yr ydym ni wedi ei weld yw ymosodiad deublyg wedi ei gynllunio o'r ddwy ochr, mewn gwirionedd, i gael yr un canlyniad, sef, i bob pwrpas, ein cadw yn yr UE.
Ac mae'r amrywiol gonsesiynau a roddwyd i'r Grŵp Ymchwil Ewropeaidd, wrth gwrs, yn eithaf diystyr, oherwydd bu'n rhaid iddyn nhw dderbyn y bydd swyddogaeth barhaus i Lys Cyfiawnder Ewrop ar ôl inni adael; maen nhw wedi gorfod derbyn y bydd gennym ni aelodaeth heb bleidlais o'r UE, dull cymrodeddu unochrog hurt sydd wedi'i greu, a bydd yn rhaid inni dalu o leiaf £39 biliwn i'r Undeb Ewropeaidd am ddim byd o gwbl. Ac mae hynny hyd yn oed heb y cytundeb masnach yr ydym ni i fod i'w gael ar ddiwedd y broses negodi hon.
Yn erthygl 50 o Gytuniad Lisbon, sef Cytuniad yr Undeb bellach, cynlluniwyd y cyfnod dwy flynedd i gwmpasu a chrynhoi'r negodi am berthynas fasnachu Prydain gyda'r UE yn y dyfodol. Os derbynnir y cytundeb hwn, nid ydym ni mewn gwirionedd hyd yn oed wedi dechrau'r broses honno eto, fwy na dwy flynedd ar ôl i'r bobl benderfynu y dylem ni adael. Does dim byd o gwbl yn cael ei gynnig yn gyfnewid am unrhyw beth y mae Theresa May wedi ei ildio.
Dywedodd Llywydd Cymdeithas Ffermwyr Iwerddon, Joe Healy, yr wythnos diwethaf,
Mae hi'n bwysig iawn na fydd y DU mewn unrhyw gytundeb yn gallu mynd ati i wneud eu cytundebau masnach ei hun â gwledydd eraill.
Dyna hanfod hyn i gyd, yn y pen draw: mewn gwirionedd clymu breichiau Prydain y tu ôl i'w chefn yn ei pherthynas â gwledydd eraill yn y byd fel na fyddwn ni'n gallu manteisio ar y rhyddid o adael yr UE. A chyn belled â bod yr UE dan sylw, datgymalu'r Deyrnas Unedig, gadael y farchnad sengl ar gyfer Gogledd—. Gwahanu Gogledd Iwerddon o'r Deyrnas Unedig yw'r pris y mae'n rhaid inni ei dalu am ein hymadawiad technegol.
Felly, mae hyn, mewn gwirionedd, rwy'n credu, yn sarhad ar bobl Prydain ac ar y penderfyniad a wnaethon nhw ddwy flynedd a hanner yn ôl. Fe wnaeth y Senedd gontractio'r penderfyniad hwnnw i'r bobl, a bellach rydych chi, y gwleidyddion etholedig a roddwyd yma ganddyn nhw a'u pleidlais, yn ceisio tanseilio pobl Prydain eu hunain. Fe allaf i ddweud hyn wrthych chi, os nad ydym ni mewn gwirionedd yn gadael yr UE, yna bydd ffydd pobl mewn gwleidyddiaeth a gwleidyddion ar ei isaf erioed, ac, yn wir, efallai y bydd pethau'n mynd gryn dipyn yn waeth na hynny.