Part of the debate – Senedd Cymru am 5:16 pm ar 5 Mawrth 2019.
Diolch i'r Aelod am dderbyn ymyriad. Rydych chi newydd sôn y gallai model Norwy plws o bosib ein cadw mewn gwirionedd yn Llys Cyfiawnder Ewrop, ond byddai mewn gwirionedd yn ein cadw yn Llys Cyfiawnder Gwladwriaethau Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop, yn hytrach na Llys Cyfiawnder Ewrop, ac, fel y cyfryw, bydd yn sefydliad gwahanol, yn llys gwahanol a dyfarniadau gwahanol.